Newyddion S4C

Bethan Ellis Owen: 'Diolch i fy egg donor ar Sul y Mamau'

19/03/2023

Bethan Ellis Owen: 'Diolch i fy egg donor ar Sul y Mamau'

“Ma’ hi wedi rhoi rhodd fwyaf gwerthfawr y byd i ni yn rhoi ei hwyau.”

Ar Sul y Mamau, mae’r fam i dair a’r actores Bethan Ellis Owen yn diolch i’r person wnaeth roi wyau iddi. 

Mae Jesi Iris, trydedd merch Bethan, yn bum mis oed erbyn hyn.

Ddydd Sul, mae Bethan yn cofio am y ‘person arbennig’ sydd wedi helpu i ddod â Jesi i’r byd.

Image
newyddion
Mae Jesi Iris yn bum mis oed 

Wedi dwy rownd aflwyddianus o IVF, fe benderfynodd Bethan a’i phartner Jack geisio am rodd wyau.

"'Dan ni wedi cael Jesi drwy egg donor, ac oeddan ni’n lwcus iawn bod o wedi gweithio y tro cyntaf,” meddai Bethan wrth Newyddion S4C.

"Oedd fi a Jack efo’n gilydd ers pedair blynedd ac oeddan ni isio cael plentyn, achos bo’ fi’n hŷn nathon ni gael dau rownd o IVF, dim achos bod 'na broblem sa’ ni wedi gallu cario mlaen trio yn naturiol ond achos o’n i’n mynd yn hŷn o’n i'n meddwl bod angen neud rhywbeth amdana fo.

"Wedyn nathon ni drio ffeindio egg donor, a gathon ni Jesi. A oeddan ni yn lwcus iawn nath o weithio tro cyntaf. Sydd hefyd yn dangos ella mai wyau fi oedd ddim efo ansawdd cystal.

"Da ni’n lwcus iawn."

Mae Bethan am i gymdeithas gofio am y bobl eraill sy’n helpu i greu teuluoedd. 

"Ma’ mor bwysig bod y rheini a mamau yn cofio bod ‘na gymaint o ffyrdd gwahanol o gael dy deulu bach, a does 'na ddim byd yn bod ar y ffyrdd yma.

"Ond does 'na ddim digon yn siarad am hynny yn enwedig donor eggs. Ma’ angen normaleiddio fo mwy achos jyst ffordd arall i gael teulu ydy o de."

Image
newyddion
Jesi a'i chwiorydd Begw a Efa. 

Yn ôl Bethan, mae merched sy’n rhoi wyau yn rhai i’w hedmygu.

"Fydda i yn diolch i’r egg donor ddydd Sul, dwi'n meddwl bod hi’n berson arbennig iawn," meddai.

"Dwi yn gobeithio pam fydd Jesi yn 18 ac yn cael y cyfle i gyfarfod neu chwilio amdani y bydd hi’n dewis neud. Achos 'swn i wrth fy modd yn cael cyfarfod hi a diolch iddi wyneb yn wyneb.

"Ma’ be ma’ hi wedi neud yn rhywbeth mor anhunanol ag amazing, fyddai bendant yn meddwl amdani."

Mae bod yn fam y "peth gorau yn y byd, ond hefyd y peth anoddaf yn y byd" yn ôl Bethan.

"Ond mae’r cariad yn ddiamod, dim ots beth sy’n digwydd," meddai.

Anfamol

Mae Bethan wedi actio cymeriad mam sawl gwaith hefyd, yn ei rôl fel Ffion ar Pobl y Cwm ac ar lwyfan yn y ddrama Anfamol - lle mae ei chymeriadau wedi wynebu heriau fel mam.

"Dwi'n meddwl bod o yn naturiol iawn i bob mam deimlo yn Anfamol weithia a dwi'n meddwl mai’r peth mwyaf cyffredin pan wyt ti’n fam ydy’r euogrwydd ‘na, dim ots be ti’n neud ti’n teimlo yn euog.

"Os ti mynd nôl i weithio ti’n teimlo yn euog, os ti ddim yn mynd nôl i weithio ti’n teimlo yn euog. Elli di ddim ennill pan ti’n fam dwi'n meddwl, mae’r euogrwydd ‘na yn dilyn chdi i bob man a ma’ cael teimladau negyddol yn digwydd i bawb dim ots be ydi amgylchiadau bywyd person."

Bydd Bethan yn treulio Sul y Mamau yn nhŷ ei chwaer gyda’r teulu cyfan, lle caiff hi hefyd gyfle i ddiolch i’w mam ei hun.

Image
newyddion
Jesi gyda Nain a Taid

"Mae mam wedi helpu fi lot efo’r genod pan oedd Begw ac Efa yn fach a rŵan efo Jesi a dwi isio diolch i mam achos ma’ hi wedi bod yn anhygoel drwy bopeth a fyswn i heb allu neud dim heb ei help hi.

"A ma’ mam Jack hefyd wedi bod yn lot o help. A dwi’n edrych ymlaen i ddiolch iddyn nhw ar Sul y Mamau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.