Mark Drakeford yn cyhuddo Llywodraeth y DU o 'wleidydda'n awgrymog' dros bolisi mudwyr
Mae Mark Drakeford wedi cyhuddo Llywodraeth San Steffan o "wleidydda'n awgrymog" wrth drafod polisi mudwyr yn croesi'r Sianel.
Dywedodd hefyd fod y Ceidwadwyr yn euog o gymryd rhan mewn “dog whistle politics", gan geisio apelio at un garfan benodol o'r boblogaeth yn anuniongyrchol wrth gyfeirio at lif mudwyr i Brydain.
Fe wnaeth Mr Drakeford ei sylwadau tra'r oedd ym Mharis nos Iau, gan ychwanegu fod gweinidogion Llywodraeth y DU "ym misoedd olaf" eu llywodraeth ac na fyddant yn gorfod "wynebu effaith eu penderfyniadau."
Mae’r Bil Ymfudo Anghyfreithlon dadleuol gafodd ei gyflwyno gan yr Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman yr wythnos diwethaf yn nodi y bydd ffoaduriaid sy’n cyrraedd y DU yn anghyfreithlon yn cael eu hystyried yn anghymwys i geisiadau am loches.
Dywedodd y Swyddfa Gartref ei bod “wedi ymrwymo i greu mwy o lwybrau diogel ar gyfer pobl fregus” ond ychwanegodd, “rhaid i ni fynd i'r afael â'r cynnydd mewn mudo anghyfreithlon ac atal y cychod”.
'Syfrdanol'
Dywedodd Mr Drakeford mai'r ateb i atal y nifer uchel o fudwyr rhag croesi'r Sianel oedd i agor llwybrau "diogel a chyfreithlon" i loches:
“Mae’n syfrdanol ein bod ni’n byw mewn cyfnod pan roddodd ein Hysgrifennydd Cartref Fesur o flaen Tŷ’r Cyffredin y dywedodd ei hun na allai dystio ei fod yn gyfreithlon," meddai.
“Mae’n niweidiol i enw da’r DU yng ngweddill y byd.
“Does dim dyfodol i’r math yna o wleidyddiaeth sy’n ceisio gwahanu pobol oddi wrth ei gilydd ac apelio at ganran fechan o’r boblogaeth.
“Yn fwy cyffredinol, fy marn i yw ein bod ni mewn cyfnod sydd ym misoedd olaf y Llywodraeth Geidwadol, ac rydym yn gweld y wleidyddiaeth ofnadwy yma o ystumio.
“Maen nhw'n gwneud pethau gan wybod y bydd yn weithredol tu hwnt i'r Senedd yma ac ni fydd yn rhaid iddyn nhw wynebu canlyniadau eu penderfyniadau eu hunain.”
'Bregus'
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: “Mae gan y DU hanes balch o ddarparu lloches i’r rhai sydd wir ei angen trwy ein llwybrau diogel a chyfreithlon gan gynnig diogelwch ac amddiffyniad i bron i hanner miliwn o ddynion, menywod a phlant.
“Er ein bod wedi ymrwymo i greu mwy o lwybrau i ddiogelwch ar gyfer pobl fregus ar draws y byd, rhaid i ni fynd i’r afael â’r cynnydd mewn mudo anghyfreithlon ac atal y cychod.
“Dyna pam rydyn ni’n cyflwyno deddfwriaeth newydd a fydd yn gweld pobl sy’n dod i’r DU yn anghyfreithlon, yn agored i gael eu cadw yn y ddalfa a chael eu symud yn gyflym.”
Llun: Mark Drakeford yn edrych ar Llythyr Pennal a yrrwyd gan Owain Glyndŵr i Charles VI dros 600 mlynedd yn ôl wrth ymweld gyda Ffrainc.