Gohirio streiciau gweithwyr iechyd yn Lloegr yn sgil cynnig cyflog

Mae streiciau gan weithwyr ambiwlans a staff y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr wedi'u gohirio yn sgil cynnig cyflog newydd gan Lywodraeth y DU.
Roedd disgwyl i weithwyr ambiwlans o undebau Unite ac Unison gynnal gweithredu ddiwydiannol ddydd Llun. Roedd ffisiotherapyddion hefyd wedi trefnu streiciau yn ddiweddarach ym mis Mawrth.
Daw hyn wedi i anghydfod rhwng gweithwyr iechyd a Llywodraeth y DU dros gyflogau barhau am fisoedd, gan arwain at gyfres o streiciau gan nyrsys, gweithwyr ambiwlans, parafeddygon a staff eraill o fewn y GIG.
Ond wedi dyddiau o drafod gyda'r llywodraeth mae'r undebau bellach wedi gohirio streicia pellach, gan annog aelodau i dderbyn cynnig cyflog diweddaraf.
Mae'r cynnig yn cynnwys codiad cyflog o 2% eleni a 5% ar gyfer 2023/24.
Dydy'r cynnig heb ei wneud i ddoctoriaid iau, sydd wedi cynnal tridiau o streiciau'r wythnos hon, gan eu bod mewn anghydfod arwahân i weithwyr iechyd eraill.
Fe fydd aelodau'r undebau iechyd nawr yn pleidleisio dros dderbyn y cynnig ai peidio.
Yn sgil y cynnig, dywedodd pennaeth iechyd undeb Unison, Sara Gordon, ei fod yn "siom" bod cytundeb wedi cymryd gymaint o amser i'w lunio.
"Roedd rhaid i weithwyr iechyd gynnal dyddiau o weithredu ddiwydiannol ac roedd rhaid i filoedd eraill fygwth ymuno gyda nhw er mwyn cynnal trafodaethau ffrwythlon.
"Os fydd aelodau yn ei dderbyn, fe fydd y cytundeb yn cynyddu cyflogau'n sylweddol eleni ac yn golygu codiad mewn cyflogau y flwyddyn nesaf sydd yn uwch na'r hyn yr oedd y llywodraeth wedi ei gynnig yn wreiddiol."
Ychwanegodd Rachel Harrison, ysgrifennydd cyffredinol undeb y GMB, y dylai aelodau fod yn "falch o'u hunain".
"Mae wedi bod yn daith anodd ond rydym wedi herio'r Adran Iechyd a derbyn y cynnig gorau y gallwn ei ddisgwyl erbyn hyn."
Yng Nghymru, mae trafodaethau yn parhau rhwng y llywodraeth a rhai undebau llafur.
Fe wnaeth casgliad o undebau llafur sydd yn cynrychioli gweithwyr iechyd bleidleisio i dderbyn cynnig cyflog diweddaraf y llywodraeth, oedd yn cynnwys codiad cyflog o 3% eleni.
Er hyn fe wnaeth tri o'r prif undebau - Unite, GMB a Choleg Brenhinol y Nyrsys - wrthod y cynnig. Mae'r llywodraeth ym Mae Caerdydd yn parhau i drafod gyda'r undebau yma er mwyn osgoi rhagor o streicio.