Taulupe Faletau i ennill ei ganfed cap yng ngêm olaf y Chwe Gwlad yn erbyn Ffrainc

Mae prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi enwi’r tîm i herio Ffrainc yn y Stade de France ddydd Sadwrn.
Bydd yr wythwr Taulupe Faletau yn ennill ei ganfed cap ddeuddeg mlynedd wedi iddo gynrychioli ei wlad am y tro cyntaf yn erbyn y Barbariaid.
Mae'n bosib y bydd carreg filltir i Dillon Lewis hefyd, a fydd yn ennill cap rhif 50 os yw'n cael ei alw o’r fainc ddydd Sadwrn.
Wrth edrych ymlaen at y gêm, dywedodd Gatland: "Roedd sicrhau buddugoliaeth yn y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn diwethaf yn bwysig iawn i ni o safbwynt ein hyder. Roedd yn gam pendant i’r cyfeiriad cywir ond mae llawer o waith i’w wneud o hyd.
"Ry’n ni wedi gweithio’n galed er mwyn gwella ambell wendid yn ein amddiffyn ac rydym yn parhau i wella’n ymosodol hefyd.
"Roedd perfformiad Ffrainc y penwythnos diwethaf gyda’r gorau i mi eu gweld erioed a nhw yw ail dîm gorau’r byd ar hyn o bryd wrth gwrs. Maen nhw’n gorfforol iawn ac wedi dechrau pob gêm yn gyflym hyd yma.
"Mae’n rhaid i ni ddechrau’n dda ddydd Sadwrn fel ein bod yn gallu cystadlu ym mhob agwedd o’r gêm fel bod gennym gyfle i gymryd ein cyfleoedd.
"Mae Ffrainc yn cicio cryn dipyn hefyd felly mae’n rhaid i’r agwedd honno o’n gêm ni fod yn effeithiol."
Newidiadau
Bydd George North yn bartner i Nick Tomkins yn y canol yn erbyn Ffrainc, gyda Louis Rees-Zammit yn dechrau’n safle’r cefnwr gyda Rio Dyer a Josh Adams ar yr esgyll.
Mae Dan Biggar yn dychwelyd o’i anaf i safle’r maswr tra bo Rhys Webb yn parhau’n fewnwr wedi ei ymddangosiad effeithiol cyntaf ym Mhencampwriaeth eleni yn erbyn Yr Eidal y penwythnos diwethaf.
Mae dau newid ymysg y blaenwyr gydag Alun Wyn Jones yn dechrau’n yr ail reng tra bod Aaron Wainwright yn ymddangos yn y Bencampwriaeth am y tro cyntaf eleni wrth chwarae'r safle blaen-asgellwr ar yr ochr dywyll.
Nid oedd Jac Morgan ar gael i chwarae wedi iddo anafu ei bigwrn wrth ymarfer.
Ymysg y blaenwyr ar y fainc bydd Gareth Thomas a Bradley Roberts i gynnig opsiynau yn y rheng flaen.
Dafydd Jenkins a Tommy Reffell yw’r ddau flaenwr arall ar y fainc tra bydd Leigh Halfpenny, Tomos Williams ac Owen Williams yn cynnig yr opsiynau tactegol eraill.
Y garfan llawn:
15. Louis Rees-Zammit
14. Josh Adams
13. George North
12. Nick Tompkins
11. Rio Dyer
10. Dan Biggar
9. Rhys Webb
1. Wyn Jones
2. Ken Owens
3. Tomas Francis
4. Adam Beard
5. Alun Wyn Jones
6. Aaron Wainwright
7. Justin Tipuric
8. Taulupe Faletau
Eilyddion
16. Bradley Roberts
17. Gareth Thomas
18. Dillon Lewis
19. Dafydd Jenkins
20. Tommy Reffell
21. Tomos Williams
22. Owen Williams
23. Leigh Halfpenny