Y llywodraeth yn 'agored i awgrymiadau' am greu trydedd bont dros y Fenai

Mae'r prif weinidog Mark Drakeford wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn "agored i awgrymiadau" ar greu trydedd bont dros y Fenai.
Wrth siarad yn ystod sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog ddydd Mawrth, dywedodd Mr Drakeford ei fod yn agored i unrhyw argymhellion, yn enwedig rhai gan gomisiwn yr Arglwydd Burns i drafnidiaeth yng ngogledd Cymru.
Ychwanegodd fod dyfodiad Wylfa B yn ystyriaeth allweddol wrth greu'r trydedd bont, ond bod y sefyllfa wedi newid ers hynny gan fod "y cyd-destun wedi newid, yn wahanol, yn sylfaenol... achos mae popeth oedd ar y bwrdd gyda Wylfa B ddim yna yn bresennol".
Pan oedd yn Weinidog Cyllid rhwng 2016 a 2018, roedd Mr Drakeford wedi trafod gyda'r cwmni oedd yn gyfrifol am Wylfa B os fyddai'n bosib tynnu arian i mewn ar gyfer y drydedd bont.
Mae Mr Drakeford wedi dweud ei fod eisiau gweld yr opsiynau gwahanol sydd ar gael ar gyfer y bont, er mwyn "creu shifft yn y ffordd y mae pobl yn teithio."
'Adolygiad go iawn'
Yr aelod dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth AS wnaeth holi'r prif weinidog am y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â'r cynlluniau presennol ar gyfer trydedd bont dros y Fenai i'r ynys.
Mae'n galw am "adolygiad go iawn" i'r penderfyniad, ac i edrych unwaith eto "ar yr anghenion craidd gwreiddiol am y croesiad, a sut i'w delifro nhw."
Awgrym yr AS yw cynllun "symlach" ar gyfer y bont, sef deuoli'r Britannia gyda "llwybrau teithio llesol."