Frankie Morris: Ymdrech casglu arian wrth i'r chwilio barhau

Mae miloedd o bunnoedd wedi eu casglu wrth i'r chwilio barhau yn y gogledd am Frantisek "Frankie" Morris sydd wedi bod ar goll ers wythnosau.
Fe ddiflannodd y dyn ifanc 18 oed ar 2 Mai ac mae ymdrech i chwilio amdano wedi bod ar y gweill ers hynny.
Bellach, mae tudalen GoFundMe wedi ei sefydlu i gasglu arian ar gyfer teulu Frankie a'r timoedd o bobl sydd wedi bod yn rhan o'r ymdrech chwilio.
Mae dros 100 o bobl eisoes wedi cyfrannu, gyda dros £2,800 wedi ei gasglu, yn ôl North Wales Live.
Darllenwch y diweddaraf yma.