Newyddion S4C

Rhodri Morgan Way

'Blerwch' wrth gamsillafu arwyddion stryd newydd yng Nghaerdydd

NS4C 15/03/2023

Mae pobl leol wedi galw camsillafu enw cyn brif weinidog Cymru  ar arwyddion stryd newydd yng Nghaerdydd yn "flerwch." 

Mae lluniau wedi ymddangos ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos arwyddion newydd ar gyfer Rhodri Morgan Way yn ardal Treganna o'r brifddinas wedi'u camsillafu fel 'Rodri Morgan Way'.

Dywedodd un fenyw sydd yn byw yn lleol wrth Newyddion S4C ei bod wedi aros dwy flynedd er mwyn cael arwyddion ar gyfer y stryd, sydd wedi'i henwi ar ôl y diweddar Rhodri Morgan, oedd yn brif weinidog Cymru rhwng 2000 a 2009. 

Yn ôl Cadi Thomas, sydd yn byw yn yr ardal, nid sarhad i'r iaith Gymraeg yw'r camsillafiad ond camgymeriad blêr.

"Siomedig yn amlwg, mae di cymryd dros ddwy flynedd i gael arwyddion," meddai. 

"Ond yn y bôn, arwydd uniaith Saesneg ydy o gyda'r 'Way' fel dyw e ddim yn fel maen nhw di cael enw stryd Cymraeg yn anghywir. 

"Dwi ddim yn meddwl bod o'n amharchu'r Gymraeg yn benodol, blerwch ydy o." 

Nid oedd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am godi'r arwyddion stryd ond datblygwyr y stad o dai, Lovell Homes sydd yn gyfrifol am yr arwyddion. 

Mewn ymateb i gŵyn Ms Thomas, fe wnaeth Lovell Homes ymddiheuro iddi am y camsillafiad. 

Dywedodd y cwmni y bydd yn newid yr arwyddion cyn gynted â phosib. 

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Lovell Homes am ymateb. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.