Newyddion S4C

‘Cefnogaeth wael a diagnosis araf’ ar gyfer y cyflwr Lwpws

ITV Cymru 15/03/2023
S4C

Mae pobl sy'n byw â chyflwr cronig Lwpws, sy'n gallu achosi blinder a phoen eithafol, yn dweud bod cefnogaeth wael a diagnosis araf yng Nghymru yn eu gorfodi i dalu am ofal preifat i drin y cyflwr.

Yn ôl Wendy Diment o Sir Benfro, roedd ei chyflwr mor ddifrifol erbyn iddi gael diagnosis Lwpws, y bu'n rhaid iddi roi'r gorau i'w swydd.

Dywedodd: "Rwy'n blino'n gyson. Dydw i ddim wedi gallu gweithio ers rhai blynyddoedd bellach. Mae gweithgareddau o ddydd i ddydd yn gallu bod yn flinedig, mae jyst cael bywyd normal neu geisio bod yn normal weithiau yn amhosib."

Heb unrhyw ganolfannau rhagoriaeth ac ond ychydig o arbenigedd yng Nghymru, mae hi bellach yn teithio cannoedd o filltiroedd i gael gofal yn breifat ger Llundain. 

"Mae'n rhwystredig oherwydd rydych chi'n gwybod, os ydych chi'n byw yn Lloegr, fe allech chi gael mynediad at y canolfannau rhagoriaeth hynny,” meddai. 

“Mae'n un o'r mathau gwaethaf o loteri cod-post y gallwch ei gael. Does gennym ni ddim y wybodaeth ein bod yn derbyn gofal gorau posib."

Image
newyddion

Beth yw Lwpws?

Mae Lwpws yn glefyd awtoimiwnedd, lle mae'r system imiwnedd yn ymosod ar rannau iach o'r corff.  Gall hyn achosi poen yn y cymalau, brech ar y croen a blinder eithafol ac, mewn achosion difrifol, fe all fod yn berygl i fywyd  Nid oes modd cael eich iachâu o’r cyflwr, ond gall symptomau wella os yw'r driniaeth yn dechrau'n gynnar.

Gall Lwpws effeithio ar bawb yn wahanol.  

I Helen Eckley o Gydweli, mae Lwpws yn achosi poen yn ei chymalau a blinder difrifol. Mae hi hefyd wedi dioddef strôc fechan sy'n achosi poen yn ei hwyneb. 

Mae hi'n teimlo bod llawer o gleifion yn cael eu gadael yn 'nhir neb' heb fynediad at arbenigedd yng Nghymru.

"Weithiau fel claf ac fel menyw, dwi'n cael fy anwybyddu.

"Does 'na ddim arbenigwyr Lwpws go iawn yma yng Nghymru. Byddai'n dda pe gallem gael mynediad at y canolfannau rhagoriaeth yn Lloegr a chael arbenigwr fyddai’n cymryd sylw mewn gwirionedd o'r hyn rydych chi'n ei ddweud yn hytrach na'ch twyllo".

Dywedodd Paul Howard o Lupus UK fod nifer fawr o gleifion Lwpws yng Nghymru yn chwilio am ofal preifat am y cyflwr o gymharu â chleifion eraill ar draws y DU. 

"Rydyn ni'n gwybod bod llawer o bobl sy'n byw gyda Lwpws yng Nghymru yn anhapus gyda’u gofal. Rydym wedi gweld data o bob rhan o'r DU a Chymru sy'n cynrychioli'r gyfran uchaf o bobl â Lwpws sy'n talu am ofal preifat o ardal arall, sy'n arwydd o ba mor anghymesur yw'r sefyllfa."

Image
newyddion

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n cydnabod yr effaith sylweddol y gall lwpws gael ar fywydau pobl. Fel gyda chyflyrau mwy prin eraill, mae byrddau iechyd yn cyfeirio cleifion ymlaen am driniaeth arbenigol lle nad yw ar gael yn lleol.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid fel Cymdeithas y Rheumatolegwyr ym Mhrydain, Versus Arthritis a Lupus UK i gryfhau'r gefnogaeth i bobl sydd â Lwpws a chyflyrau cyhyrysgerbydol eraill."

Lluniau : Wendy Diment 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.