Perchnogion gwesty yn Aberaeron yn pledio’n euog i dorri rheolau Covid-19
Mae cwpl sy’n berchen ar westy yng Ngheredigion wedi cyfaddef eu bod nhw wedi torri rheolau Coronafeirws ac ymddwyn yn ymosodol tuag at yr heddlu yn Rhagfyr 2020.
Cafodd David James a Meinir Bowen o Westy’r Castell, Aberaeron, eu cyhuddo o gyflenwi alcohol yn groes i reolau Covid-19 ar y pryd, yn ogystal â chyhuddiadau o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus ar 4 Rhagfyr 2020.
Fe blediodd y ddau yn euog, ac maent wedi derbyn dirwyon o £6,575.
Clywodd y llys bod y swyddogion, ar ôl cael caniatâd i fynd i mewn i far y gwesty, wedi wynebu camdriniaeth lafar gan David James.
Roedd yn ymddangos bod y cwpl yn feddw a nododd swyddogion, ar ôl edrych ar deledu cylch cyfyng (CCTV) yr adeilad, fod dyn arall wedi bod yn bresennol wrth y bar gyda’r cwpl o flaen llaw.
Clywodd y llys fod Mr James wedyn wedi ymddwyn yn anghydweithredol ac yn ymosodol tuag at y swyddogion y tu allan i'r adeilad.
Cafodd lluniau cylch cyfyng a lluniau ar gamera corff y swyddogion eu cyflwyno fel tystiolaeth yn y llys.
Plediodd David James yn euog i dri chyhuddiad o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus yn groes i adran 4A o Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986, rhwystro swyddogion rhag arfer eu swyddogaethau, a chaniatáu i alcohol gael ei gyflenwi pan nad oedd hynny wedi ei ganiatáu.
Plediodd Meinir Bowen yn euog i dri chyhuddiad o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus, unwaith eto yn groes i adran 4A o Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986.
Dywedodd Cadeirydd yr Ynadon wrth y cwpl fod hwn yn ddigwyddiad “brawychus a diangen” na ddylai'r swyddogion fod wedi gorfod ei wynebu yn ystod eu diwrnod gwaith arferol.
Dywedodd Sarjant yr Heddlu Richard Marshall: "Rydym yn ddiolchgar i'r Llys am gefnogi'r gwaith rhagorol a wnaed gan Swyddogion y Cyngor a'r Heddlu.
“Nid oes neb yn mynd i'r gwaith i gael ei gam-drin. Mae’r Drefn Gyhoeddus, Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trwyddedu Alcohol a Diogelwch y Cyhoedd yn feysydd allweddol o waith ar y cyd i'r Cyngor a'r Heddlu.
“Drwy gydol cyfnod Covid-19 rydym wedi cynnal ymweliadau ar y cyd â mangreoedd ledled y Sir a bydd y rhain yn parhau dros yr Haf."
Dywedodd bargyfreithiwr y cwpl fod y cyfnod wedi bod yn "anodd iawn" iddynt, a’u bod yn"llawn edifeirwch".