Ymgeiswyr arweinyddiaeth yr SNP yn rhagweld annibyniaeth mewn pum mlynedd

Mae'r tri ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth yr SNP yn credu y gallai'r Alban fod yn wlad annibynnol mewn pum mlynedd.
Mewn dadl ar y BBC nos Fawrth, dywedodd Humza Yousaf, Kate Forbes ac Ash Regan y gallai'r wlad adael y DU cyn 2028.
Cyhoeddodd Nicola Sturgeon ym mis Chwefror ei bod yn ymddiswyddo fel prif weinidog yr Alban ar ôl mwy nag wyth mlynedd wrth y llyw.
Mae arolygon barn diweddar yn awgrymu fod cefnogaeth tuag at annibyniaeth ar yr un lefel ag yr oedd pan olynodd Ms Sturgeon Alex Salmond yn dilyn y refferendwm yn 2014, pan wrthododd pleidleiswyr annibyniaeth o 55% i 45%.
Er hyn, fe wnaeth arolwg barn YouGov ar gyfer SkyNews awgrymu fod cefnogaeth tuag at annibyniaeth wedi gostwng, gyda 46% o'i blaid a 54% yn dymuno parhau yn rhan o'r DU.
Mae'r Goruchaf Lys hefyd wedi rhybuddio nad oes gan Senedd yr Alban yr hawl i gynnal refferendwm heb gytundeb gyda Llywodraeth y DU.
Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi dweud nad oes ganddi unrhyw fwriad i roi caniatâd ffurfiol i hyn.
Bydd enillydd y ras am yr arweinyddiaeth yn cael ei gyhoeddi ar 27 Mawrth.