Nifer o drigolion wedi dychwelyd i'w tai yn dilyn ffrwydrad yn Nhreforys
Mae nifer o drigolion wedi dychwelyd i'w tai yn dilyn ffrwydrad yn Nhreforys ddydd Llun.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol Clydach yn Nhreforys tua 11.20 fore Llun, ar ôl derbyn adroddiadau fod difrod sylweddol i adeiladau yng nghanol stryd o dai.
Cadarnhaodd Heddlu De Cymru nos Lun fod dyn wedi marw yn dilyn y ffrwydrad. Cafodd ei enwi brynhawn Mawrth. Roedd Brian Davies yn 68 oed.
Mae dau berson arall a gafodd eu cludo i'r ysbyty, oedolyn a phlentyn, bellach wedi eu rhyddhau, tra bod oedolyn arall yn parhau i dderbyn triniaeth ond mewn cyflwr sefydlog.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Carl Price: “Mae ein meddyliau’n parhau gyda theulu a ffrindiau Brian, ar adeg sy’n anodd iawn iddyn nhw, a’r rhai sydd wedi’u hanafu yn dilyn y ffrwydrad.
“Mae ein hymholiadau’n parhau i ganfod achos y digwyddiad, ac mae’r ymholiadau hyn yn cael eu cynnal mewn partneriaeth ag asiantaethau perthnasol gan gynnwys yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Ffrwydrad nwy sy'n cael ei amau o achosi'r difrod.
Mewn diweddariad nos Fawrth, dywedodd Prif Swyddog Gweithredu Wales & West Utilities, Rob Long: "Yn sgil natur y digwyddiad, rydym wedi bod yn gwirio ein hadnoddau yn helaeth yn y gymuned leol er mwyn sicrhau nad oes yna unrhyw ddifrod i'n rhwydwaith o ganlyniad i'r ffrwydrad.
"Rydym wedi cwblhau'r gwaith hwn bellach ac mae nifer o drigolion yn gallu dechrau dychwelyd i'w tai."