Newyddion S4C

Gary Glitter

Gary Glitter yn dychwelyd i garchar wythnosau ers ei ryddhau

NS4C 13/03/2023

Mae'r paedoffil Gary Glitter wedi ei alw'n ôl i'r carchar, ar ôl iddo dorri amodau ei drwydded.  

Cafodd y canwr pop 79 oed ei ryddhau fis Chwefror, ar ôl cael ei garcharu yn 2015 am ymosod yn rhywiol ar dair merch ysgol. 

Gadawodd y carchar yn Portland, Dorset, wedi wyth mlynedd o dan glo, sef hanner ei ddedfryd o 16 blynedd. 

Roedd Glitter, sef Paul Gadd yn ôl ei enw bedydd, yn gorfod cydymffurfio ag amodau ei drwydded wedi iddo gael ei ryddhau o garchar, ac roedd i fod i gael ei oruchwylio yn agos gan yr heddlu a'r Gwasanaeth Prawf.  

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Prawf: “ Gwarchod y cyhoedd yw ein prif flaenoriaeth.

Dyna pam ry'n ni'n gosod amodau llym gydag unrhyw drwydded, a phan fo troseddwr yn torri'r amodau hynny, dyden ni ddim yn oedi cyn eu hanfon yn ôl i'r ddalfa."    

 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.