Newyddion S4C

Cyngor Ceredigion yn ail-ystyried cynllun biniau yng Nghei Newydd

13/03/2023
Cei Newydd

Mi fydd rhagor o finiau yn cael eu gosod yng Nghei Newydd, ond mae Cyngor Sir Ceredigion wedi pwysleisio na fyddan nhw'n cael eu gosod ar y traeth.

Cafodd penderfyniad y cyngor i gael gwared â’r biniau sbwriel ar y traeth ei feirniadu gan Gyngor Tref Cei Newydd fis diwethaf, gyda phryderon yn cael eu codi ynglŷn â sut y byddai’r dref yn cael ei chadw’n daclus.

Yn dilyn adolygiad y cyngor sir o drefniadau sbwriel yn y dref, mi fydd rhagor o finiau yn cael eu gosod yng Nghei Newydd, i ddod â’r cyfanswm o finiau i 40.

Bydd y biniau hefyd yn cael eu gwagio deirgwaith y dydd yn ystod yr haf.

Ond mae’r cyngor sir wedi dweud na fydd biniau yn cael eu hail-osod ar y traeth yn dilyn "pryderon o ran iechyd a diogelwch a phroblemau amgylcheddol".

Mewn datganiad, dywedodd y cyngor: “Rydym yn gwybod y gall biniau sy’n cael eu gosod mewn lleoliadau amhriodol greu mwy o broblemau nag y maent yn eu datrys. Dyna oedd yr achos gyda’r biniau ar draethau Cei Newydd.

“Dyma’r unig leoliad yng Ngheredigion lle rydym wedi treialu hyn, ac yn anffodus, nid yw wedi gweithio. Maent wedi achosi anawsterau gweithredol yn ogystal â phryderon o ran iechyd a diogelwch, gan arwain at broblemau amgylcheddol.”

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon: “Rydym yn adolygu ein dull yn barhaus o ran cyflenwi gwasanaethau rheng-flaen yn weithredol, gan gynnwys glanhau strydoedd a rheoli biniau sbwriel, gyda’r bwriad o wneud y gorau o’r adnoddau sydd ar gael ar hyd a lled Ceredigion.

“Rhannwyd y cynigion ar gyfer Cei Newydd yn 2023 â Chyngor Tref Cei Newydd yn gynharach yn y flwyddyn. Rydym yn gobeithio gweithio gyda nhw a rhanddeiliaid eraill ac edrychwn ymlaen at glywed am y mentrau a’r ymyriadau rhagweithiol y byddant yn eu harwain i gefnogi Caru Ceredigion a sicrhau bod Cei Newydd yn parhau i edrych ar ei gorau er mwynhad pawb.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.