Newyddion S4C

Ash Regan, Humza Yousaf, a Kate Forbes

Y pleidleisio i ddechrau yn y frwydr am arweinyddiaeth yr SNP

NS4C 13/03/2023

Fe fydd y pleidleisio'n dechrau'n ddiweddarach ddydd Gwener yn yr ymgyrch i ddod o hyd i arweinydd nesaf plaid yr SNP yn yr Alban.

Fe fydd papurau pleidleisio'n cael eu hanfon i ddegau o filoedd o aelodau'r blaid yn yr Alban a thu hwnt.

Yr Ysgrifennydd Iechyd, Humza Yousaf, yr Ysgrifennydd Cyllid, Kate Forbes, a'r cyn weinidog diogelwch cymunedol, Ash Regan, fydd yn brwydro i olynu Nicola Sturgeon.

Gyda'r SNP mewn sefyllfa o fod y blaid fwyaf yn senedd yr Alban, fe fydd yr enillydd yn dod yn chweched prif weinidog ar y wlad.

Gofynnir i aelodau'r blaid raddio'r tri ymgeisydd yn nhrefn eu dewis, ac os na fydd unrhyw ymgeisydd unigol yn sicrhau mwy na 50% o'r pleidleisiau ar eu dewis cyntaf, bydd y person yn y trydydd safle yn cael ei ddileu.

Yna bydd pleidleisiau ail ddewis yr aelodau'n cael eu dosbarthu ymhlith y ddau ymgeisydd sy'n weddill er mwyn dod o hyd i'r enillydd.

Ychydig oriau ar ôl i'r bleidlais agor, fe fydd y tri ymgeisydd yn wynebu ei gilydd mewn dadl fyw gan Sky News.

Cyhoeddodd Nicola Sturgeon ei hymddiswyddiad fel prif weinidog yr Alban ar ôl mwy nag wyth mlynedd wrth y llyw.

Dywedodd mai rhan o wasanaethu oedd gwybod yn "reddfol" ei fod yn amser rhoi'r gorau iddi, ond mai dyma'r peth gorau i "yr achos dros annibyniaeth yr ydw i wedi cysegru fy mywyd iddo".

Yn dilyn pleidlais yr aelodau, fe fydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 27 Mawrth. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.