Newyddion S4C

Cipolwg ar unig gêm y Cymru Premier JD nos Lun

Sgorio 13/03/2023
jd cymru premier / CBD Cymru

Yn dilyn y gohiriad oherwydd yr eira nos Wener, bydd Y Seintiau Newydd a’r Bala yn cyfarfod mewn gêm gynghrair nos Lun.

CHWECH UCHAF

Y Seintiau Newydd (1af) v Y Bala (5ed) | Nos Lun – 19:30

Ar ôl curo Cei Connah a Phen-y-bont y penwythnos diwethaf, mae’r Bala a’r Seintiau Newydd wedi sicrhau mae nhw fydd yn cystadlu yn rownd derfynol Cwpan Cymru JD ar y 29ain o Ebrill.

Llwyddodd Y Bala i guro’r Seintiau yn rownd derfynol 2016/17, a bydd Hogiau Gwynedd yn gobeithio achosi sioc arall eleni i gwblhau’r dwbl, gan iddyn nhw eisoes godi Cwpan Nathaniel MG ym mis Ionawr.

Ond dyw’r Seintiau Newydd heb golli dim un o’u 12 gêm flaenorol yn erbyn Y Bala (ennill 8, cyfartal 4), a dyw tîm Colin Caton erioed wedi ennill oddi cartref yn Neuadd y Parc.

Mae’r Seintiau Newydd angen uchafswm o bum pwynt o’u saith gêm sy’n weddill i gipio’r bencampwriaeth am y 15fed tro yn eu hanes.

Dyw’r Seintiau heb golli gêm ddomestig yn Neuadd y Parc ers bron i flwyddyn (YSN 0-1 Dre), gan ennill 12 o’u 13 gêm gartref yn y gynghrair y tymor yma (1-1 vs Pen-y-bont).

Am y tro cyntaf ers Tachwedd 2021 mae’r Bala wedi mynd ar rediad o bum gêm gynghrair heb fuddugoliaeth, ond bydd curo Cei Connah o 3-2 yn y gwpan y penwythnos diwethaf wedi rhoi hwb i’w hyder.

Hon fydd 1,000fed gêm Y Seintiau Newydd yn Uwch Gynghrair Cymru, a pe bae tîm Craig Harrison yn curo’r Bala, yna byddai’r Seintiau yn gallu sicrhau’r bencampwriaeth gyda gêm gyfartal yng Nghei Connah nos Wener.

Record cynghrair diweddar:

Y Seintiau Newydd: ➖✅❌✅✅
Y Bala: ❌➖➖❌➖

Bydd uchafbwyntiau’r gêm ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.