Newyddion S4C

Fferm wynt

Llywodraeth Cymru yn rhoi caniatâd ar gyfer fferm wynt arnofiol gyntaf Cymru

NS4C 13/03/2023

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi caniatâd i'r fferm wynt arnofiol gyntaf yng Nghymru, a fydd 40km o arfordir Sir Benfro. 

Bwriad prosiect Erebus ydi gosod saith tyrbin cenhedlaeth nesaf 14 megawat ar blatfformau sy'n arnofio yn y môr, a byddant yn darparu digon o ynni carbon isel i 93,000 o gartrefi. 

Mae hefyd yn cyfrannu at dargedau ynni Llywodraeth Cymru a newid y dibyniaeth ar danwyddau ffosil drud. 

Daw'r prosiect yma fel rhan o gam cyntaf datblygiad ynni adnewyddadwy pedwar gigawat yn y Môr Celtaidd a fydd yn ddigon i ddarparu pŵer i bedair miliwn o gartrefi.

Yn y dyfodol, gallai'r datblygiad ddarparu 20 gigawat o yni adnewyddadwy.

Gobaith Blue Gem Wind, sef menter ar y cyd rhwng TotalEnergies a'r Simply Blue Group, ydi dechrau gweithredu prosiect 100MW Erebus yn 2026. 

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod "gennyn ni obeithion mawr ar gyfer y sector ynni ar y môr – rydyn ni'n credu bod ganddo'r potensial i ddarparu ffynonellau ynni cynaliadwy yn y dyfodol, ac mae hefyd yn gyfle nad yw'n codi ond unwaith mewn cenhedlaeth i agor marchnadoedd newydd ar gyfer cyflenwyr lleol, ac i greu miloedd o swyddi o ansawdd uchel yng Nghymru.

"Mae gan brosiect Erebus y potensial i ddangos i'r byd y gall Cymru a'r Môr Celtaidd gynhyrchu ynni adnewyddadwy, ar yr un pryd â rheoli ein hadnoddau morol mewn modd cynaliadwy."

Llun: Blue Gem Wind

 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.