Newyddion S4C

Cyn-nyrs yn teimlo’n ‘fregus’ fel claf wrth gael triniaeth mewn ysbyty yn y gogledd

ITV Cymru 10/03/2023
nyrs ITV

Mae cyn-nyrs wedi beirniadu'r hyn y mae hi'n ei ddisgrifio fel cwymp mewn safonau a diffyg adnoddau ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ar ôl iddi hi orfod derbyn triniaeth fel claf. 

Bu'n rhaid i Mair Roberts, 73, dreulio amser yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ar ôl cael llawdriniaeth ym mis Chwefror eleni.

“Roeddwn i’n teimlo’n fregus yna. Roeddwn i eisiau codi o'r gwely a'u helpu i fod yn onest, oherwydd rydych chi yn y gwely, rydych chi wedi cael llawdriniaeth, rydych chi'n canu'r gloch ac mae rhaid i chi aros.”

Fe wnaeth Ms Roberts ddechrau ei gyrfa fel nyrs yn 1967 yn Ysbyty Brenhinol Alexandra cyn mynd i weithio yn Ysbyty Glan Clwyd yn yr 80au. Fe wnaeth hi ymddeol o’r gwasanaeth yn 2006. 

Image
nyrs ITV

“Mae’n neud i fi deimlo’n drist. Dwi’n falch iawn ac yn angerddol am y gwasanaeth iechyd. Roedd Glan Clwyd bob amser yn cael ei gymeradwyo.

"Dydw i ddim yn gwybod sut mae'r staff yn parhau ac rwy'n eu cymeradwyo. I weld y ffordd maen nhw'n gweithio, fyddwn i ddim eisiau bod yn glaf eto.

“Nid yw’n feirniadaeth o’r staff, ond does dim digon o staff yna i ateb y galw.”

Ym mis Chwefror, fe wnaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gael ei osod dan fesurau arbennig unwaith eto gyda nifer o aelodau'r bwrdd rheoli wedi camu o’r neilltu.

Dr Nick Lyons yw’r Dirprwy Brif Weithredwr Dros Dro ar gyfer Ysbyty Glan Clwyd. Mae o’n derbyn bod yna problemau sydd angen cael eu datrys. 

Image
Nick Lyons

“Mae yna broblemau, ond byddwn i'n dweud bod yna hefyd waith da yn digwydd, felly nid yw fel pe bai popeth yn anghywir. Mae yna broblemau gwirioneddol sydd yn ddwfn o fewn Ysbyty Glan Clwyd, ond hefyd rhannau eraill o'r bwrdd iechyd.

"Mae mesurau arbennig yn ceisio deall y rhesymau am hynny a pham, ac i ddeall yn iawn beth yw'r ateb hirdymor.

“Yr unig sicrwydd gallai rhoi yw ein bod yn edrych i wneud pethau’n iawn, i fod yn agored ac yn dryloyw ynghylch ble mae’r materion, nid i geisio eu cuddio ond i weithio gyda chydweithwyr, gyda Llywodraeth Cymru, gyda phartneriaid eraill i wneud pethau'n iawn y tro yma.”

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan eisoes wedi dweud ei bod hi’n pryderu am berfformiad y bwrdd iechyd. Roedd y Gweinidog fod i ymweld â’r ysbyty ar 10 Mawrth, ond mae bellach wedi gohirio’r ymweliad. 

Mewn ymateb i’r camau eithriadol i roi’r bwrdd iechyd dan fesurau arbennig ym mis Chwefror, dywedodd:

"Mae’n adlewyrchu pryderon difrifol am berfformiad y sefydliad, am ei lywodraethiant, a materion yn ymwneud ag arweinyddiaeth a diwylliant sy’n ei atal rhag gwella.

“Dw i’n cydnabod bod y bwrdd iechyd wedi wynebu heriau sylweddol ers sawl blwyddyn ac wedi gweithio’n galed i oresgyn yr heriau hyn. Serch hynny, nawr yw’r amser am arweinwyr newydd i wneud y gwelliannau sydd eu hangen.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.