Gwrthdrawiad Llaneirwg: Dau yn parhau i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i wrthdrawiad angheuol ar yr A48 yn ardal Llaneirwg, Caerdydd.
Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd y llu fod teuluoedd Rafel Jeanne, Darcy Ross ac Eve Smith, fu farw yn y gwrthdrawiad, yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol a bod archwiliadau post mortem yn parhau.
Mae dau berson arall yn parhau i dderbyn triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Cyhoeddodd yr heddlu fod ymchwiliadau yn cynnwys archwilio lluniau cylch cyfyng a chamerâu adnabod platiau rhif ceir yn dangos fod y gwrthdrawiad wedi digwydd am 02.03 fore dydd Sadwrn, 4 Mawrth.
Gadawodd y cerbyd gwyn Volkswagen Tiguan y ffordd i mewn i ardal goediog.
Mae ditectifs sy’n ymchwilio i’r gwrthdrawiad bellach yn apelio ar unrhyw un a oedd yn yr ardal neu a allai fod wedi bod yn teithio i’r dwyrain ar hyd yr A48 rhwng Caerdydd a ffordd ymadael Llaneirwg sy’n cysylltu â chylchfan yr A48, B4487 a Cypress Drive a allai fod â lluniau camera dashfwrdd i gysylltu gyda nhw.
Maen nhw hefyd eisiau siarad ag unrhyw un oedd yn teithio yn yr ardal ar y pryd ac a allai fod wedi gweld y Volkswagen Tiguan.
Does dim awgrym bod cerbyd arall yn rhan o'r gwrthdrawiad medd yr heddlu.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jason Davies o Heddlu De Cymru: “Mae’r ymchwiliad yn gwneud cynnydd da wrth ddod â’r digwyddiadau a arweiniodd at y gwrthdrawiad at ei gilydd.
"Bydd swyddogion arbenigol yn parhau i gynnal ymchwiliad manwl a fydd yn ein galluogi i ddarparu ffeithiau am yr hyn a ddigwyddodd yn ystod oriau mân bore Sadwrn.
“Mae ein meddyliau’n parhau i fod gyda’r teuluoedd a phawb yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad trasig hwn. Mae swyddogion cyswllt teulu yn cefnogi’r teuluoedd dan sylw ar adeg sy’n rhaid bod yn hynod anodd iddyn nhw.”
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2300072969.