'Ni ddylai Boris Johnson urddo ei dad yn Farchog' medd AS Ceidwadol

Ni ddylai Boris Johnson urddo ei dad yn Farchog, yn ôl AS Ceidwadol.
Daw hyn yn dilyn adroddiadau fod Boris Johnson yn bwriadu cynnwys ei dad, Stanley Johnson, ar restr o enwau y bobl y mae eisiau eu hurddo wrth ymddiswyddo.
Mae prif weinidogion sy'n ymddiswyddo fel arfer yn cael enwebu tua hanner cant o bobol.
Wrth siarad ar raglen BBC Question Time nos Iau, fe wnaeth Ysgrifennydd Mewnfudo y DU, Robert Jenrick, gwestiynu a oedd hi'n "ddoeth" i enwebu aelodau o'i deulu ei hun ar gyfer anrhydedd.
"Fy marn bersonol i ydy nad yw'n ddoeth i gyn-brif weinidog enwebu aelodau o'i deulu ei hun ar gyfer anrhydeddau," meddai.
Mae adroddiad ym mhapur newydd The Times yn awgrymu bod y cyn prif weinidog wedi cynnwys ei dad ymysg oddeutu 100 o enwau sydd wedi eu hawgrymu ar gyfer anrhydedd, fel rhan o’i restr anrhydeddau ymddiswyddo.
Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Syr Kier Starmer fod "y syniad o gyn-brif weinidog yn anrhydeddu ei dad – am ei wasanaethau - i beth? Mae’r syniad o Boris Johnson yn urddo’i dad fel marchog – mae’r frawddeg yna yn wirion bost."
Er hyn, dywedodd chwaer Boris Johnson, Rachel: "Pe ne bai fy mrawd wedi bod yn Brif Weinidog, yna dwi'n credu y gallai fy nhad fod wedi gallu cael ei gydnabod, a hynny yn haeddiannol hefyd."