Ffatri 2Sisters yn Llangefni i gau ar ddiwedd y mis

Mae'r cwmni bwyd 2Sisters wedi cadarnhau y bydd ei ffatri yn Llangefni yn cau ar 31 Mawrth.
Fe wnaeth y cwmni gyhoeddi ym mis Ionawr eu bod yn cynnal ymgynghoriad ar gau'r safle ar Ynys Môn.
Yn ôl 2 Sisters, fe wnaeth adolygiad o'r ffatri ddangos nad oedd y safle yn gynaliadwy.
Y disgwyl oedd y byddai'r rhan fwyaf o'r 730 o weithwyr yn y ffatri yn colli eu swyddi yn dilyn y penderfyniad.
Yn sgil y cyhoeddiad, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ffurfio tasglu ynghyd â Chyngor Ynys Môn, Llywodraeth y DU a sefydliadau eraill fel yr undeb lafur Unite er mwyn ceisio sicrhau dyfodol y safle.
Ond daeth cadarnhad fis diwethaf nad oedd dyfodol i'r ffatri yn Llangefni a bod 2 Sisters yn bwrw ymlaen gyda chynlluniau i gau'r safle.
Mae'r cwmni bellach wedi cadarnhau y bydd y ffatri yn cau ei drysau ar ddiwedd mis Mawrth.
Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Arweinydd Cyngor Môn, y Cynghorydd Llinos Medi, ei bod yn "newyddion trychinebus i’r gweithlu a’u teuluoedd.
"Ein blaenoriaeth nawr fydd eu cefnogi cymaint ag sydd bosib a sicrhau bod holl bartneriaid tasglu 2 Sisters yn parhau i gydweithio ar eu rhan.
“Bydd rhaid hefyd ganolbwyntio ar ddyfodol hirdymor y safle a’r effaith y bydd colli dros 700 o Swyddi yn ei gael ar ddyfodol yr Ynys a’r rhanbarth.”