Newyddion S4C

YG

Cyfyngu ymweliadau i Ysbyty Gwynedd 'ar unwaith' o achos heintiau ymysg cleifion

NS4C 09/03/2023

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi eu bod yn cyfyngu ar ymweliadau ar wardiau yn Ysbyty Gwynedd ar unwaith.

Daw'r penderfyniad oherwydd y nifer uchel o gleifion â Clostridium difficile (C.diff), Covid-19 a Norofeirws sy'n derbyn gofal yno.

Mewn datganiad, dywedodd y bwrdd iechyd: "Ni fydd y penderfyniad hwn yn effeithio ar y canllawiau sydd ar waith ar gyfer ein gwasanaethau mamolaeth, pediatreg, canser a newyddenedigol.

"Rhaid trefnu ceisiadau ymweld eithriadol, megis ymweld â pherthynas ar ddiwedd oes, yn uniongyrchol â'r ward a bydd angen cwblhau asesiad risg unigol cyn ac ar ôl cyrraedd yr ymweliad y cytunwyd arno."

Bydd trefniadau ymweld ag ysbytai Cymunedol ar Ynys Môn a Gwynedd yn dibynnu ar sefyllfa wardiau unigol medd y bwrdd iechyd.

"Gofynnwn i chi gysylltu â'r ward i ddechrau i wirio pa gyfyngiadau all fod ar waith.

"Gofynnir i gleifion sydd ag apwyntiadau a thriniaethau wedi’u cynllunio fynychu fel arfer ac fel bob amser, mae ein Hadran Achosion Brys ar agor i’r rhai sydd angen triniaeth frys."

Dywedodd Nicola McLardie, Cyfarwyddwr Cyswllt Nyrsio ar gyfer Cymuned Iechyd Integredig y Gorllewin ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydym yn deall bod teuluoedd a ffrindiau eisiau ymweld â’r rhai sy'n annwyl iddynt, ond mae angen i ni roi’r camau hyn ar waith i leihau’r siawns y bydd unrhyw heintiau’n lledaenu.

“Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i atal a rheoli heintiau ac mae’r cyfyngiadau hyn yn angenrheidiol er mwyn i ni allu parhau i ddarparu’r gofal gorau posibl i gleifion.

“Rydym yn adolygu’r sefyllfa’n rheolaidd a bydd trefniadau ymweld arferol yn ailddechrau cyn gynted â phosib.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.