Newyddion S4C

Rhybudd Eira

Cyhoeddi rhybudd newydd oren ar gyfer iâ ac eira i rannau o Gymru

NS4C 09/03/2023

Mae rhybudd newydd oren ar gyfer iâ ac eira wedi ei gyhoeddi i rannau o Gymru.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod disgwyl i eira a rhew achosi “trafferthion sylweddol” ar draws gogledd-ddwyrain Cymru a Phowys.

Mae’r rhybudd yn parhau o 12:00 ddydd Iau nes 09:00 bore ddydd Gwener.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai hyd at 30cm o eira syrthio mewn rhai mannau, gyda 10-20cm yn debygol.

Mae'r rhybudd oren mewn grym yn rhan o Wynedd, rhan o Bowys, yn ogystal a rhannau o Sir Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Mae'r rhybudd melyn ar gyfer y siroedd canlynol ddydd Iau: 

  • Ynys Môn
  • Gwynedd
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint
  • Wrecsam
  • Powys
  • Sir Gâr
  • Ceredigion
  • Sir Fynwy

Cyhoeddwyd bore ddydd Iau y bydd dros 80 o ysgolion ar gau yn Sir y Fflint, 40 ym Mhowys, a phob ysgol yn Wrecsam.

Mae rhai ysgolion hefyd ar gau yng Ngwynedd, Sir Ddinbych, Sir Conwy, Caerffili, Blaenau Gwent a Thorfaen.

Daw'r tywydd gaeafol pellach ddiwrnod yn unig wedi i eira daro rhannau o'r de a'r de orllewin ddydd Mercher gan orfodi nifer o ysgolion i gau. 

Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am eira a rhew o'r newydd i rannau o'r de a'r canolbarth ar gyfer bore dydd Gwener. 

Fe fydd yn rhybudd yn dod i rym am 04:00 bore Gwener ac yn para hyd at 10:00 y bore. 

Fe fydd y siroedd canlynol yn cael eu heffeithio gan y rhybudd. 

  • Blaenau Gwent 
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Powys
  • Torfaen
  • Merthyr Tudful 
  • Caerffili 
  • Sir Fynwy
  • Rhondda Cynon Taf 

Ysgolion

Bydd pa ysgolion sydd ar gau yn cael ei gyhoeddi ar wefannau y cynghorau unigol. Mae modd eu gwirio isod:

Llun: Dylan Wyn

Llun: Eira yn Hen Golwyn bore ma.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.