Newyddion S4C

Mick Lynch

Undeb gweithwyr y rheilffyrdd yn dechrau pleidleisio ar gytundeb a fyddai'n dod â’r streiciau i ben

NS4C 09/03/2023

Bydd undeb blaenllaw sy'n cynrychioli nifer o weithwyr y rheilffyrdd yn dechrau pleidleisio ar ddod â’u streiciau i ben ddydd Iau.

Mae gweithwyr undeb yr RMT wedi cynnal streiciau ers haf y llynedd sydd wedi dod a’r rhwydwaith reilffyrdd yng Nghymru a gweddill y DU i stop.

Roedd hyd yn oed gwasanaethau nad oedd yn rhan o’r anghydfod fel Trafnidiaeth Cymru wedi eu heffeithio am eu bod nhw’n defnyddio isadeiledd Network Rail.

Heddiw bydd yr undeb yn dechrau pleidleisio ar gynnig “newydd a gwell” ac mae disgwyl canlyniad ar 20 Mawrth.

“Mae cynnig newydd Network Rail yn golygu cynyddu cyflogau rhwng 14.4% ar gyfer y rheini sydd ar y tâl isaf a 9.2% ar gyfer y rheini sydd ar y tâl uchaf,” meddai'r RMT.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyffredinol, Mick Lynch: “Mae Network Rail wedi gwneud cynnig newydd a gwell a bydd ein haelodau yn pleidleisio ar dderbyn neu wrthod y cynnig.”

'Teg'

Roedd RMT wedi bwriadu streicio eto ar 16, 18 a 30 Mawrth ac 1 Ebrill.

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Trafnidiaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig bod y cynnig oedd yn wynebu aelodau RMT yn un “teg iawn”.

“Rydym ni’n gobeithio y bydd aelodau'r RMT yn cydnabod y buddion, yn derbyn y cynnig ac yn dod a’r gweithredu diwydiannol i ben," medden nhw.

Llun: Ysgrifennydd Cyffredinol yr RMT, Mick Lynch ar linell biced. Llun gan Stefan Rousseau / PA Wire.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.