'Cyffrous iawn' i fod yn rownd derfynol Gwobrau Sain y BBC 2023
'Cyffrous iawn' i fod yn rownd derfynol Gwobrau Sain y BBC 2023

Mae hi'n "gyffrous iawn" i fod yn rownd derfynol Gwobrau Sain y BBC 2023, yn ôl un sydd ar y rhestr fer.
Mae Gareth Elis wedi ei enwi yn rownd derfynol Gwobrau Sain y BBC 2023, ymysg sêr gan gynnwys Tudur Owen, Toby Jones, Ruth Everett a Danielle Vitalis.
Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, mae Gareth yn wyneb cyfarwydd i wylwyr Stwnsh, ac wedi ei enwi yn rownd derfynol Gwobr Marc Beeby am y Perfformiad Debut Gorau diolch i'w berfformiad yn y ddrama bodlediad Tremolo.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni yn y West End yn Llundain ar 19 Mawrth.
Dywedodd Gareth wrth Newyddion S4C nad oedd yn coelio'r ffaith ei fod wedi cael ei enwi.
"Fi ffaelu credu'r peth a bod yn onest. Ges i wbod nôl ym mis Tachwedd a o'dd hwnna tua 10 mis ar ôl i ni orffen y prosiect felly mae bach yn rhyfedd ond fi'n gyffrous iawn," meddai.
Mae Gareth yn chwarae cymeriad Harri yn y fonolog Tremolo, sydd yn ymdrin â pherson ifanc sydd yn darganfod fod ei fam wedi derbyn diagnosis cynnar o Alzheimer's.
"Ma' fe'n lot iddo fe ddelio gyda ond fi'n credu bod e'n amserol iawn o ran y sgyrsiau sy'n digwydd ar hyn o bryd o ran iechyd meddwl, yn enwedig dynion ifanc a'r ffaith ein bod ni'n cael ein hannog i siarad am y peth," meddai.
"Felly o'dd hi'n braf cael gweld cymeriad ifanc, gwrywaidd yn gorfod dod i delerau ac yn siarad am y peth.
"Os ydy e'n codi ymwybyddiaeth neu yn helpu rywun o ran hynny i siarad am beth bynnag yw e, hwnna yw'r wobr mwyaf."
'Prowd iawn'
Cafodd y ddrama ei hysgrifennu gan Lisa Parry a'i chyfarwyddo gan Zoë Waterman ac mae'n cynnwys cerddoriaeth wreiddiol gan y telynydd a'r gyfansoddwraig o Gymru, Eira Lynn Jones.
Mae Gareth yn ei hystyried hi'n fraint i allu cydweithio gydag awduron a chyfarwyddwyr y sioe.
"I fi gael gweithio gyda Lisa, Branwen a Zoë ar hwn, ma' nhw'n dîm ffantastig a'r Theatr Genedlaethol yn cefnogi hefyd - ni gyd yn browd iawn ohono fe a'n hapus 'da fe," meddai.
Fe wnaeth Gareth recordio'r ddrama ddwywaith, unwaith yn Gymraeg ac unwaith yn Saesneg, ac mae modd ffrydio'r ddwy fersiwn ar blatfformau megis Spotify ac AM.