Apêl heddlu wedi i ymladd difrifol achosi llanast ar drên

Mae'r heddlu wedi rhyddhau lluniau fideo cylch cyfyng o dri dyn y maen nhw eisiau siarad â nhw mewn cysylltiad ag ymchwiliad i ymladd difrifol ar drên rhwng Caerdydd ac Abertawe.
Fe wnaeth grŵp o ddynion ddechrau ymladd gyda'i gilydd wrth i'r trên gyrraedd gorsaf Castell-nedd am 18:45 nos Sadwrn, 4 Chwefror.
Doedd dim modd defnyddio'r trên am gyfnod er mwyn i waed gael ei lanhau yn sgil yr ymladd.
Mae Heddlu Trafnidiaeth Cymru yn credu bod gan y tri dyn yn y lluniau gwybodaeth ynglŷn â'r digwyddiad.
Mae'r heddlu wedi gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu yn syth.