Newyddion S4C

Lola James

Llys yn clywed fod cariad mam wedi lladd ei merch a beio’r anafiadau ar y ci

NS4C 08/03/2023

Fe allai cynnwys yr erthygl hon beri gofid i rai

Mae llys wedi clywed bod ci teuluol wedi cael y bai ar ôl i ferch ddwy oed gael ei lladd mewn “ymosodiad hynod o dreisgar” gan gariad ei mam.

Bu farw Lola James ar 21 Gorffennaf 2020 o anaf “catastroffig” i’w phen yn ogystal â 101 o anafiadau allanol a niwed difrifol i’w llygaid.

Mae Kyle Bevan, 31, o Forfa Mawr, Aberystwyth yn gwadu llofruddio'r plentyn bedwar mis ar ôl symud i mewn i’r cartref teuluol yn Hwlffordd, Sir Benfro.

Mae bellach yn wynebu achos yn Llys y Goron Abertawe ar y cyd â mam Lola, Sinead James, 30, sydd wedi ei chyhuddo o ganiatáu iddo ladd y plentyn.

Wrth agor yr achos dywedodd Caroline Rees KC fod Bevan, a oedd yn defnyddio amffetamin ac a oedd yn dreisgar, wedi ymosod ar y ferch fach mewn modd “creulon”.

Roedd wedi bod ar ei ben ei hun yn ei chwmni, ar noson Gorffennaf 16 a bore Gorffennaf 17 pan ddigwyddodd yr ymosodiad honedig.

Dywedodd Caroline Rees fod Bevan wedi honni bod y ci teuluol wedi gwthio Lola James i lawr y grisiau – “celwydd bwriadol er mwyn osgoi ei euogrwydd”.

Dywedodd ei fod wedi aros am awr cyn ffonio am ambiwlans, ar ôl gwglo am gyngor i ymdrin â phlentyn oedd wedi bwrw ei ben am 6.30am.

Dywedodd y parafeddygon fod Lola yn wlyb pan gyrhaeddon nhw'r tŷ ac mae’r erlyniad yn dweud fod hynny’n awgrymu fod Kyle Bevan wedi ceisio ei glanhau.

“Achos yr erlyniad ydi nad ydi'r anafiadau ar Lola yn cyd-fynd â damwain,” meddai Caroline Rees.

“Yn hytrach maen nhw’n dangos ei bod hi wedi dioddef ymosodiad treisgar a chreulon gan rywun y dylai hi fod wedi gallu ymddiried ynddo.”

‘Hyll’

Mae Sinead James yn dweud ei bod hi’n cysgu pan ddigwyddodd anafiadau ei merch ac mae’r erlyniad yn derbyn hynny, meddai Caroline Rees.

Ond mae’r erlyniad yn honni y dylai hi fod wedi bod yn ymwybodol o’r bygythiad gan Kyle Bevan am ei fod wedi bod yn dreisgar gyda hi.

Roedd hi’n gwybod fod y plentyn "wedi dioddef anafiadau pan yng ngofal Kyle Bevan yn y gorffennol a bod ganddo dymer hyll a threisgar , yn enwedig pan oedd o dan ddylanwad cyffuriau,” meddai.

Mae’r achos llys yn parhau.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.