Bwyty Cymreig Lerpwl 'i gau ar unwaith' o achos yr argyfwng costau byw

Mae bwyty Cymreig yn Lerpwl wedi cau o achos yr argyfwng costau byw.
Cafodd ‘Lerpwl’ ei agor yn Nociau Albert yn 2020 gan ddau frawd, Ellis a Liam Barrie, perchnogion bwyty poblogaidd Marram Grass yn Niwbwrch, ar Ynys Môn.
Ond yn sgil y pandemig Covid-19 a chostau cynyddol ynghlwm â rhedeg y bwyty, mae’r brodyr wedi cadarnhau eu bod wedi eu gorfodi i gau’r busnes ar unwaith.
Mewn llythyr agored ar wefan Lerpwl, fe ddywedodd y perchnogion eu bod yn “drist” na fyddai’r busnes yn aros yn agored:
“Wrth agor yn ystod cyfnod Covid ac yn sgil yr heriau yn dilyn y pandemig, mae’r amgylchedd fasnachol wedi bod yn un ddigynsail. O ganlyniad, mae’r baich gweinyddol wedi tanseilio ein hymdrechion i ail-sefydlu’r busnes.
“Mae’r adferiad araf wedi cael ei heffeithio gan yr argyfwng costau byw, costau cynyddol a’r niferoedd llai na’r disgwyl o ymwelwyr i Ddociau Albert.
“Er gwaethaf yr heriau, rydym yn falch iawn o ymrwymiad a gwaith caled y tîm wrth sefydlu Lerpwl yn un o fwytai gorau’r ddinas.
“Mae lot o bobl wedi chwarae rhan a rydym yn gwerthfawrogi pawb sydd wedi buddsoddi eu hamser a’u hegni yn nhaith Lerpwl.”