Gwerthiant capel hanesyddol yng Ngwynedd yn 'siomedig iawn'
Mae gwerthiant capel hanesyddol ym Mhen Llŷn yn "siomedig iawn" yn ôl dau o wleidyddion Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor AoS a Liz Saville Roberts AS.
Roedd ymgyrch yn lleol wedi gobeithio codi digon o arian i gadw'r capel ym meddiant y gymuned, ond methiant oedd yr ymdrech hon yn y pen draw.
Mae galwadau nawr am sefydlu cymdeithas dai benodol ar gyfer pobl Llŷn, yn dilyn y newyddion am werthu'r capel.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn asesu pa ymyriadau sydd "sydd fwyaf effeithiol" ar gyfer mynd i'r afael â'r sefyllfa.
Cafodd y capel ym Mhistyll ei werthu am £257,000 mewn arwerthiant cyhoeddus ddydd Mercher, a hynny i brynwr o'r tu allan i'r ardal, yn ôl Plaid Cymru.
Mae caniatâd cynllunio yn bodoli i'w droi'n gartref gwyliau.
Cafodd y capel ei adeiladu yn 1875 ac mae'n gysylltiedig â'r heddychwr, bardd a'r pregethwr Tom Nefyn Williams.
Mae'r Aelod Senedd Cymru a'r Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd wedi galw am ffurfio cymdeithas dai gan ganolbwyntio'n benodol ar Ben Llŷn.
Wrth ymateb i werthiant y capel dywedodd Mr ap Gwynfor a Ms Saville Roberts: "Mae angen mwy o reolaethau deddfwriaethol arnom ar frys i ddelio â’r nifer y tai all drosglwyddo o fod yn gartrefi cynradd i ail gartref neu lety gwyliau prynu i osod. Mae achos cryf hefyd i sefydlu corff tai penodol i Ben Llŷn, gyda ffocws ar ddarparu cartrefi fforddiadwy a dibynadwy i bobl leol Llŷn".
Ychwanegodd y ddau, "Mae llywodraeth Cymru wedi methu â mynd i’r afael â’r sefyllfa. Mae eu difaterwch wedi caniatáu i hyn gynyddu i bwynt lle mae ein cymunedau yn wynebu argyfwng; argyfwng tai lleol lle mae’r galw am dai cymdeithasol yn fwy na’r cyflenwad, tra bod nifer yr ail gartrefi allan o reolaeth yn llwyr".
"Tra ein bod yn aros i lywodraeth Cymru gydnabod yr argyfwng, rhaid i ni fel cymuned ystyried pob opsiwn i helpu i ddiwallu anghenion tai pobl leol. Mae hyn yn cynnwys ystyried sefydlu partneriaeth tai cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc a theuluoedd Pen Llyn".
Dywedodd lefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Cymru yw'r unig wlad yn y DU i roi pwerau i awdurdodau lleol godi lefelau uwch o dreth gyngor ar eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi.
“Rydym hefyd wedi cynyddu cyfradd uwch y Dreth Trafodiad Tir, ac yn asesu pa ymyriadau sydd fwyaf effeithiol a sut mae ein partneriaid yn defnyddio’r pwerau presennol.
“Yn fwy na hynny, mae ein llywodraeth newydd wedi ymrwymo i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel ychwanegol ledled Cymru a datblygu cynllun tai cymunedol iaith Gymraeg.”