Endometriosis: Gwyddonwyr yn profi triniaeth newydd am y tro gyntaf mewn degawdau

Mae gwyddonwyr yn cynnal treialon clinigol er mwyn profi cyffur newydd i leddfu effeithiau endometriosis, a allai fod y driniaeth newydd gyntaf ar gyfer y cyflwr mewn degawdau.
Bwriad ymchwilwyr o brifysgolion Caeredin, Aberdeen a Birmingham yw gweld a all y cyffur dichloroacetate leddfu'r poen mae pobl sydd â'r cyflwr yn ei ddioddef.
Mae endometriosis yn gyflwr ble mae meinwe leinin y groth yn tyfu mewn mannau eraill, fel yr ofarïau a thiwbiau ffalopaidd, gan achosi poen difrifol.
Yn ôl Endometriosis UK, mae dros 1.5m o fenywod yn y DU yn byw gyda'r cyflwr ar hyn o bryd.
Mae disgwyl i'r ymchwil ar gyfer y driniaeth newydd, sydd wedi'i ariannu gan yr elusen Wellbeing of Women a Llywodraeth Yr Alban, ddechrau yn yr hydref.
Fe fydd 100 o fenywod yn cymryd rhan er mwyn gweld a all y cyffur leddfu eu symptomau.
Os ydy'r arbrawf yn llwyddiannus, dyma fyddai'r driniaeth newydd gyntaf ar gyfer endometriosis ers 40 mlynedd.
A phe bai'n llwyddiannus, dyma fyddai'r driniaeth gyntaf i beidio defnyddio hormonau neu unrhyw fath o lawdriniaeth.
Mae ymchwilwyr wedi darganfod bod menywod gydag endometriosis yn cynhyrchu mwy o lactad - cemegyn sydd yn cael ei gynhyrchu o fewn y corff fel cyflenwad egni pan mae diffyg ocsigen.
Mae gwyddonwyr yn credu y gall dichloroacetate leihau maint y lactad sydd yn cael ei gynhyrchu, ac felly y gallai leddfu effeithiau endometriosis.
Dywedodd arweinydd yr ymchwil, Dr Lucy Whitaker o Wellbeing of Women a Phrifysgol Caeredin, y gall yr ymchwil roi "ansawdd bywyd gwell" i fenywod sydd yn byw gydag endometriosis.
"Rydym yn gwybod bod menywod gydag endometriosis yn awyddus i gael mwy o opsiynau ar gyfer triniaeth a ffyrdd gwell i leddfu'r poen difrifol mae'n achosi," meddai.
"Mae ein hymchwil hyd yn hyn yn dangos canlyniadau addawol y gall dichloroacetate wneud gwahaniaeth enfawr.
"Rydw i'n gobeithio y bydd y treialon newydd yn cadarnhau hyn ac yn rhoi gobaith i fenywod bod triniaeth well ac ansawdd gwell o fywyd ar y gorwel."