Newyddion S4C

david attenborough.png

Ffliw adar yn atal Syr David Attenborough rhag ffilmio ar ynys ger Sir Benfro

Cafodd Syr David Attenborough ei gadw draw o gywion tra'n ffilmio ar gyfer ei gyfres ddiweddaraf ar ynys ger arfordir Sir Benfro. 

Fe wnaeth arbenigwyr afiechydon heintus rybuddio y byddai achos o'r ffliw adar yn gallu bod yn angheuol i'r naturiaethwr 96 oed. 

Mae ei brosiect ddiweddaraf, Wild Isles, yn arddangos Ynysoedd Prydain a'r heriau sy'n eu hwynebu. 

Roedd angen i Syr David deithio i Ynys Sgomer ger arfodir Sir Benfro ar gyfer un rhan o'r gyfres, lle'r oedd cywion adar drycin Manaw yn gadael eu tyllau tanddaearol am y tro cyntaf a'n cychwyn ar eu taith mudol 6,000 milltir. 

Ond roedd adroddiadau y gallai ffliw adar fod yn bresennol ar yr ynys bythefnos cyn i ffilmio ddechrau. 

Dywedodd cynhyrchydd y gyfres, Alastair Fothergill, sydd wedi gweithio gyda Syr David am fwy na 30 mlynedd fod ganddo "hen ffrind sy'n arbenigwr ar afiechydon heintus, ac fe wnes i ei ffonio i holi am ei farn.

"Dywedodd wrthaf, "Mae ffliw adar yn anodd iawn i'w ddal, ond os ydi o'n ei gael (Syr David) yna mi fydd yn marw."

Penderfynodd Mr Fothergill y byddai'n well i Syr David gadw draw o'r cywion, gan ddefnyddio camerâu isgoch yn lle hynny. 

Roedd y cynllun yn llwyddianus, ac fe wnaeth Mr Fothergill ddisgrifio'r foment fel un o "gampweithiau" Syr David. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.