Newyddion S4C

Cynlluniau'r llywodraeth i atal pobl rhag croesi'r Sianel yn 'anymarferol'

06/03/2023
Ffoaduriaid yn croesi'r môr o Ffrainc i'r DU - Llun Newyddion S4C

Mae elusennau a gwleidyddion wedi beirniadu cynlluniau newydd Llywodraeth y DU i atal pobl sydd yn croesi'r Sianel yn anghyfreithlon, gan eu galw yn "anymarferol." 

Fe wnaeth dros 45,000 o bobl groesi'r Sianel rhwng Ffrainc a'r DU yn 2022, cynnydd o 60% o’i  gymharu â'r flwyddyn flaenorol. 

Mae'r prif weinidog Rishi Sunak wedi dweud fod  atal pobl rhag croesi'r Sianel mewn cychod bach yn un o'i 'bum blaenoriaeth' gan ei fod eisiau rhwystro'r "masnach anfoesol."

Mae disgwyl i'r llywodraeth gyflwyno deddfwriaeth newydd i fynd i'r afael â mewnfudo anghyfreithlon ddydd Mawrth. 

'Ychwanegu cost ac anhrefn'

O dan y cynlluniau newydd, fe fydd pobl yn cael eu hatal rhag ceisio am loches yn y DU, gan gael eu hanfon i Rwandan neu "drydedd gwlad ddiogel" cyn gynted â phosib. 

Fe all pobl hefyd cael eu gwahardd rhag dychwelyd i'r DU yn y dyfodol , neu  wneud cais i fod yn ddinesydd Prydeinig. 

Mae'r cynlluniau wedi denu beirniadaeth chwyrn, gyda  Cyngor  Ffoaduriaid yn dweud y bydd y ddeddfwriaeth yn "gadael miloedd o bobl mewn limbo parhaol." 

"Yn syml, fydd y cynlluniau yma yn ychwanegu rhagor o gost ac anhrefn i'r system," meddai Enver Solomon, prif weithredwr yr elusen. 

"Mae rhan fwyaf o ddynion, menywod a phlant sydd yn croesi'r Sianel yn gwneud oherwydd maent yn ffoi o ryfel, gwrthdaro neu i osgoi cael eu herlyn.

"Ni fydd deddfwriaeth ddiffygiol y Llywodraeth yn atal y cychod, ond arwain at filoedd o bobl yn cael eu harestio ar gost anferth, gan eu cadw mewn limbo parhaol a'u trin fel troseddwyr am chwilio am loches."

Wrth siarad ar y cyfryngau ddydd Llun, fe wnaeth Wes Streeting, Gweinidog  Iechyd y Blaid Lafur yn San Steffan,  feirniadu'r cynlluniau hefyd.

"Mae croesi'r sianel yn hynod o beryglus ac yn ffordd annerbyniol i bobl gyrraedd y DU. 

"Ond mae hyn yn digwydd oherwydd mae'r Llywodraeth yn ceisio hawlio’r penawdau gyda gimigau yn lle datrys y broblem. 

"Mae rhaid datblygu ffyrdd diogel o gyrraedd y wlad, cyflymu'r ffordd y mae ceiswyr lloches yn cael eu prosesu."

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Mae'r Ysgrifennydd Gartref wedi bod yn glir na ddylwn alluogi pobl sydd yn cyrraedd y DU yn anghyfreithlon i aros yn y wlad.

"Byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth newydd yn fuan i sicrhau bod pobl sydd yn cyrraedd y DU yn anghyfreithlon yn cael eu harestio a'u dychwelyd i'w gwlad enedigol neu i wlad ddiogel arall.

"Mae'r gwaith rydym yn gwneud gyda Ffrainc yn hanfodol i daclo'r cynnydd annerbyniol mewn pobl yn croesi'r Sianel. Rydym yn rhannu nod i daclo'r broblem gyda'n gilydd i stopio'r cychod." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.