Protestwyr yn gobeithio atal gwaith ar dai moethus sy’n bygwth 'difetha' traeth yng Nghernyw

Mae protestwyr yng Nghernyw yn ymgyrchu yn erbyn gwaith er mwyn adeiladu tai moethus uwchben traeth yno.
Ddydd Iau roedd 150 o bobol wedi ymgasglu gan ddweud y gallai’r gwaith adeiladu "ddifetha" eu traeth a gwneud difrod i gynefinoedd bywyd gwyllt.
Ddoe roedd protest arall gyda rhai o’r protestwyr yn eistedd ar y clogwyni a'r traeth wedi eu gwisgo fel môr-forynion.
Mae’r protestiadau wedi digwydd ar y traeth ger Tewynblustri (New Quay yn y Saesneg) ar arfordir y gogledd.
Roedd un o sêr Love Island, Lucie Donlan, ymysg yr rheini fu'n cefnogi'r protestwyr.
Mae gweithwyr yn bwriadu llenwi rhai o’r ogofau ar y traeth gyda cherrig a choncrid, gyda sêl bendith Cyngor Cernyw.
Beach protesters in Cornwall stop work on clifftop development pic.twitter.com/Ts2wMxwuMz
— Cornwall Live (@CornwallLive) March 4, 2023
Dywedodd y datblygwyr Living Quarter Properties mai’r nod oedd adeiladu saith adeilad tri llawr moethus ar gyfer fflatiau ar frig y clogwyn.
Ond mewn datganiad dywedodd y grŵp Save Whipsiderry Cliffs mai eu prif nod oedd “atal y gwaith er mwyn rhoi cyfle i ystyried tystiolaeth bellach”.
Parhaodd y brotest ddydd Iau ddwy awr ond daeth i ben wrth i’r heddlu gyrraedd a derbyn cyfaddawd sef bod y protestwyr yn gadael a dim gwaith pellach yn digwydd y diwrnod hwnnw.
Mae Save Whipsiderry Cliffs wedi dweud eu bod nhw'n bwriadu parhau gyda'r brotest nes fod y gwaith yn cael ei atal yn gyfan gwbwl.
Llun gan Save Whipsiderry Cliffs.