Newyddion S4C

Partygate: Pwyllgor yn honni bod Boris Johnson wedi 'camarwain' Tŷ’r Cyffredin pedair gwaith

03/03/2023
Boris Johnson - Llun Rhif 10

Mae pwyllgor o aelodau seneddol San Steffan yn honni bod Boris Johnson wedi camarwain Tŷ’r Cyffredin ar bedwar achlysur yn ystod y ffrae Partygate.

Dywedodd y Pwyllgor Breintiau, sydd yn cynnal ymchwiliad ei hun mewn i Partygate, ei fod wedi gweld tystiolaeth sy’n “awgrymu’n gryf” y byddai torri rheolau Covid wedi bod yn “amlwg” i’r cyn prif weinidog.

Ond dywedodd Johnson na fyddai byth yn camarwain aelodau “yn fwriadol” ynghylch partïon yn Downing Street yn ystod y cyfnod clo.

Mae Johnson hefyd wedi mynegi “pryder” ynglŷn â phenodiad Sue Gray i’r blaid Lafur wythnos yma, o ystyried ei rôl yn arwain ymchwiliad annibynnol fewn i honiadau am dorri rheolau Covid yn Downing Street yn ystod y cyfnod clo.

Mae’r pwyllgor wedi pwysleisio nad yw eu canfyddiadau yn derfynol, gyda Johnson yn rhoi tystiolaeth i’r ymchwiliad yn fyw ar deledu fis yma.

Fe dderbyniodd Johnson dirwy, un o’r 126 cafodd ei roi gan swyddogion Scotland Yard ynghylch partïon yn Downing Street a Whitehall yn ystod y cyfnod clo.

Os yw’n cael yn euog o ddweud celwydd wrth aelodau Dy’r Cyffredin, fe allai gael ei wahardd am gyfnod ac efallai cael ei orfodi i wynebu isetholiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.