Newyddion S4C

Carcharu Stephen Bear am 21 mis am rannu fideo preifat ohono yn cael rhyw gyda'i gyn-bartner

03/03/2023
Stephen Bear

Mae Stephen Bear wedi cael ei garcharu am 21 mis am rannu fideo preifat ohono yn cael rhyw gyda'i gyn-bartner.

Roedd y seren teledu realiti wedi rhannu fideo CCTV ohono'i hun a seren Love Island Georgia Harrison i wefan OnlyFans.

Dywedodd Ms Harrison ei bod hi wedi "bod trwy uffern" ers 2020 a bod carcharu Bear yn anfon "neges glir bod yr heddlu a'r llysoedd yn cymryd y mater o ddifri".

Ychwanegodd ei bod hi'n gobeithio y bydd y carcharu yn atal rhywun arall rhag cyflawni trosedd o'r fath a bod pobl sydd wedi dioddef yn debyg iddi hi yn "derbyn rhyw fath o gyfiawnder".

Cafodd y llys Bear yn euog o sbecian a datgelu lluniau a ffilmiau preifat a rhywiol ym mis Rhagfyr.

Rhoddwyd gorchymyn atal iddo i beidio â chysylltu â Ms Harrison am bum mlynedd.

'Diffyg ediferwch'

Wrth erlyn Bear, dywedodd Jacqueline Carey KC nad oedd Ms Harrison yn gwybod ei bod yn cael ei recordio.

Roedd hi wedi dweud wrth Bear i beidio rhannu'r fideo, a byddai yn drist iawn petai hynny yn digwydd.

Ond roedd Ms Harrison wedi gweld Bear yn gyrru'r fideo i rywun dros WhatsApp, ac yn hwyrach y flwyddyn honno gwelodd y fideo ar-lein.

Dywedodd Hannah von Dadelszen, dirprwy brif erlynydd y goron yn Nwyrain Lloegr: "Roedd Stepen Bear wedi dangos diffyg ediferwch trwy beidio cymryd cyfrifoldeb am ei ymddygiad camdriniol, ac wedi mynd mor bell â rhoi'r bai ar Ms Harrison.

"Er ei bod hi'n byw bywyd cyhoeddus, mae gan Georgia Harrison yr hawl i breifatrwydd.

"Ond cafodd hynny ei gymryd oddi wrthi gan Bear er mwyn gwneud arian yn y ffordd fwyaf ysgytiol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.