'Cyffro' wrth edrych ymlaen at Eisteddfod Ryng-golegol 2023
'Cyffro' wrth edrych ymlaen at Eisteddfod Ryng-golegol 2023

Bydd yr Eisteddfod Ryng-golegol yn dychwelyd y penwythnos hwn gyda phrifysgolion ar hyd a lled Cymru yn ymgasglu i gystadlu a chymdeithasu.
Yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn i fyfyrwyr Cymraeg, bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal eleni ar gampws Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan.
Bydd Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Caerdydd i gyd yn cymryd rhan eleni.
Y tro diwethaf i'r Eisteddfod gael ei chynnal yn Llanbed oedd yn ôl yn 2017, ac mae Llywydd Cymdeithas Gymraeg y Drindod Dewi Sant, Ffion Anderson, yn edrych ymlaen yn fawr.
"Mae'r misoedd diwethaf 'di bod yn brysur tu hwnt yn paratoi a sicrhau bod popeth yn ei le ar gyfer y penwythnos mawr, ond dwi nawr yn barod ar gyfer y cystadlu a'r hwyl felly pob lwc i bawb a gobeithio y bydd hi'n 'Steddfod i'w chofio!" meddai.
Ychwanegodd Mared sydd hefyd yn fyfyrwraig yn y brifysgol eu bod nhw'n "rili edrych ymlaen i ddangos i pawb be' 'dan ni'n gallu gneud a gweld neuadd llawn, pawb yn cefnogi, methu aros!"
Yn ogystal â’r cystadlu ar y llwyfan a’r gwaith cartref, roedd Gala Chwaraeon rhyng-golegol, a oedd yn cynnwys rygbi, pêl-droed a phêl-rwyd ar y dydd Gwener, ac i gloi'r penwythnos, bydd gig gyda Morgan Elwy, Mali Hâf a Dros Dro yn perfformio.
Bydd llu o gystadlaethau yn cael eu cynnal ar y llwyfan - o'r corau cymysg i'r deuawdau doniol i'r gystadleuaeth Bing Bong.
'Cryfach nag erioed'
Yn ôl rhai o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, maen nhw'n "gryfach nag erioed" eleni.
Dywedodd Llywydd y GymGym, Elan, ei bod hi "a gweddill y Gymdeithas wir yn edrych 'mlaen at y 'Steddfod Rhyng-gol eleni, fi'n bersonol yn edrych mlaen oherwydd ma' fe yn fy nghartre' i yn Llambed felly fydd hwnna'n grêt a fi hefyd yn edrych ymlaen i gystadlu gyda gweddill y GymGym a chael laff!"
"Fi'n edrych 'mlaen i weld pawb a bod yn Llambed a ma' ishe'r holl golege eraill watchi mas achos ma' Caerdydd ar y ffordd!"
Ychwanegodd is-lywydd y GymGym, Catrin, bod "angen i Bangor ac Aber watchiad ei hun achos ma GymGym Caerdydd yn gryfach nag erioed."
'Cyffrous'
Mae Prifysgol Bangor yn gobeithio bod yn fuddugol am yr wythfled flwyddyn yn olynol.
"'Dan ni gyd yn gyffrous iawn i gymryd rhan yn yr Eisteddfod ond 'dan ni yn nerfus, 'dan ni wedi ennill yr Eisteddfod 7 gwaith yn olynol felly dim pwysa arna ni o gwbl i ennill!" meddai Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, Celt John.
"Ein gelynion mwyaf 'swn i'n deud ydi Aberystwyth - dwi'n meddwl fyddwn ni'n gallu ennill unwaith eto!"
Dywedodd Elain ac Elan o Brifysgol Aberystwyth eu bod nhw'n "edrych ymlaen - ma' genno ni chwaraeon ar y dydd Gwener ac wedyn y 'Steddfod rhyngolegol wedyn ar y dydd Sadwrn.
"Gobeithio newn ni ennill ond rhoi shot dda arni de, trio’n gora, joio ma' Aber yn mynd i neud ynde so ia edrych 'mlaen...C'mon Aber!"