Pwy fydd yn ennill Cân i Gymru 2023?

Bydd Cân i Gymru yn dychwelyd nos Wener, wrth i wyth cân wynebu ei gilydd er mwyn hawlio'r teitl a gwobr o £5,000.
Eleni fe fydd y gystadleuaeth fawreddog yn cael ei darlledu o Ganolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth gydag Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn cyflwyno.
Cafodd yr wyth cân ar y rhestr fer eu dewis gan banel yn cynnwys rhai o'r enwau mwyaf yn sîn cerddoriaeth Cymru - y gantores a’r cynhyrchydd Eädyth, y cerddor ac aelod o’r grŵp Pedair, Gwyneth Glyn, enillydd Cân i Gymru bedair gwaith a phrif leisydd ‘Y Moniars’, Arfon Wyn, a’r cyflwynydd radio a phrif leisydd Sŵnami, Ifan Davies.
Yma mae Newyddion S4C yn cael cip ar y straeon tu ôl y caneuon fydd yn cystadlu eleni.
1. Patagonia gan Alistair James. Dylan Morris yn perfformio.
Mae Alistair James wedi cyfnewid ei feicroffon ar Capital Cymru ar gyfer meicroffon Cân i Gymru am y trydydd tro. Cyrhaeddodd y rownd derfynol yn 2008 a 2020, ond mae'n parhau i edrych am ei fuddugoliaeth gyntaf.
Mae'n gobeithio cyflwyno "blas o Dde America" i'r gystadleuaeth gyda'i gân 'Patagonia'.
Alistair James o Lan Conwy sydd wedi cyfansoddi 'Patagonia' - un o'r wyth cân sydd wedi cyrraedd Cân i Gymru 2023 🏴
— S4C 🏴 (@S4C) February 23, 2023
Dyma'r drydedd tro iddo gyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth 🙌
🏴 Cân i Gymru
📆 3 Mawrth
🕗 8.00 pic.twitter.com/WsYESxj5ic
2. Y Wennol gan Siôn a Liam Rickard, geiriau gan Siôn Rickard. Lo-fi Jones (Liam a Siôn Rickard) yn perfformio.
Mae Siôn Rickard yn ôl yn perfformio yng Nghân i Gymru wedi iddo gyrraedd y rownd derfynol y llynedd, a thro yma mae wedi dod gyda'i frawd, Liam. Mae'r ddau yn cyfuno i greu y band Lo-fi Jones a fydd yn perfformio 'Y Wennol.'
Mae'r brodyr wedi addo cân "werinol, punchy" ar gyfer y gystadleuaeth eleni.
"Odde ni isho sgwennu cân werinol, punchy ar gyfer Cân i Gymru"
— S4C 🏴 (@S4C) March 2, 2023
Yr hanes tu ôl i 'Y Wennol' gan Siôn a Liam Rickard - un o'r wyth cân sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Cân i Gymru 2023 🏴
🏴 #CiG2023
📆 Nos Wener | Friday
🕗 8.00pm pic.twitter.com/w2fsgQczdd
3. Melys gan Luke Clement, Daniel Davies, Dafydd Mills a Tomos Mills. The Night School (Luke Clement, Daniel Davies, Dafydd Mills a Tomos Mills) yn perfformio.
Band o Abertawe 'The Night School' sydd tu ôl y gân 'Melys'. Fe wnaeth Luke Clement, Daniel Davies, Dafydd Mills a Tomos Mills ddefnyddio eu swyddi mewn ysgolion fel ysbrydoliaeth ar gyfer yr enw unigryw.
Atgofion melys o fod allan yn Abertawe a mwynhau ieuenctid sydd wrth wraidd eu cân. Mae'r band yn addo "lot o egni a lot o wallt" yn ystod eu perfformiad nos Wener.
"Bydd y gynulleidfa yn gweld lot o egni...a lot o wallt" 😂 🙌
— S4C 🏴 (@S4C) February 28, 2023
Band o Abertawe, The Night School, sydd wedi cyfansoddi'r gân 'Melys' - un o'r wyth cân sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Cân i Gymru 2023 🏴
🏴 #CiG2023
📆 Nos Wener | Friday
🕗 8.00pm pic.twitter.com/hVvOSFS4dE
4. Cân i Mam gan Huw Owen.
Efallai y bydd gwylwyr iau yn adnabod Huw Owen am ei gyfnod yn cyflwyno Cyw. Ond mae 'Cân i Mam' yn mynd mewn cyfeiriad gwahanol i'r hyn yr oedd yn canu yn y boreau i ddiddanu plant Cymru.
Wedi i'w fam oroesi diagnosis o ganser, dywedodd Huw fod y gân yn "rhywbeth neis" iddo wneud ar ôl cyfnod anodd. Mae'n gobeithio y bydd nifer o bobl sydd wedi mynd trwy brofiad tebyg yn gallu uniaethu gyda neges y gân.
"Mynd dwy chemo a petha, dio'm yn beth braf i weld o gwbl."
— S4C 🏴 (@S4C) March 1, 2023
Yr hanes tu ôl i 'Cân i Mam' - cân a ysgrifennodd Huw Owen i'w fam ar ôl ei brwydr gyda chanser 💛
Huw fydd hefyd yn perfformio'i gân ar lwyfan Cân i Gymru.
🏴 #CiG2023
📆 Nos Wener | Friday
🕗 8.00pm pic.twitter.com/yXeDfxv2PP
5. Chdi Sy’n Mynd I Wneud Y Byd Yn Well gan Dafydd Dabson. Bryn Hughes Williams yn perfformio.
Mae Dafydd Dabson yn wreiddiol o ogledd Cymru ond bellach yn byw yng Nghaerdydd. Ond dychwelyd adref i Ben Llŷn wnaeth ysbrydoli 'Chdi Sy’n Mynd i Wneud Y Byd Yn Well' wrth i Dafydd fyfyrio am sefyllfa'r amgylchedd.
Er i'r argyfwng newid hinsawdd godi ofn ar nifer ohonom, mae'r gân yn troi'r ffocws ar obaith ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Dafydd Dabson, o Ben Llŷn yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, yw un o'r wyth fydd yn cystadlu yn Cân i Gymru 2023 🏴
— S4C 🏴 (@S4C) February 21, 2023
Dyma'r hanes tu ôl i'w gân, 'Chdi Sy'n Mynd i Neud y Byd yn Well'.
🏴 #CiG2023
📆 3 Mawrth
🕗 8.00pm pic.twitter.com/mmFj6WQQ1f
6. Cysgu gan Alun Evans (Alun Tan Lan). Tair aelod o’r band Tant yn perfformio (Angharad Elfyn, Elliw Jones a Siwan Iorwerth).
Dyma'r pedwerydd tro i un o ganeuon Alun Evans, neu Alun Tan Lan, gyrraedd y rownd derfynol. Enillodd yn 2010 gyda 'Bws i'r Lleuad' ac mae ei ymdrechion eraill, gan gynnwys 'Ar y Ffordd', neu 'Bale ar y Bêl' fel mae'n cael ei hadnabod, wedi aros yn hir yng nghof gwylwyr.
Mae Alun yn gobeithio ychwanegu tlws arall i'w gwpwrdd gyda 'Cysgu', a chafodd ei hysgrifennu funud olaf ar noson y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth eleni.
Alun Tan Lan sydd wedi cyfansoddi 'Cysgu' - un o'r wyth cân sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Cân i Gymru 2023 🏴
— S4C 🏴 (@S4C) February 28, 2023
Dyma'r pedwerydd tro i un o'i ganeuon gyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth 🙌
🏴 #CiG2023
📆 Nos Wener | Friday
🕗 8.00pm pic.twitter.com/zDO2icApRG
7. Eiliadau gan Ynyr Llwyd.
Mae Ynyr Llwyd yn dad i ddau ac yn gyfrifol am gyfansoddi a pherfformio Eiliadau yng nghystadleuaeth Cân i Gymru eleni. Mwynhau'r pethau da mewn bywyd ar ôl cyfnod anodd yw ysbrydoliaeth y gân.
Dywedodd Ynyr ei fod wedi gor-feddwl pa mor gyflym mae amser yn mynd heibio wrth iddo wynebu cyfnod heriol y llynedd. Neges y gân "onest a phersonol" yw "chwalu'r cwmwl ac i weld yr awyr las" er mwyn mwynhau'r pethau bach.
Yr hanes tu ôl i 'Eiliadau' gan Ynyr Llwyd - un o'r wyth cân sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Cân i Gymru 2023.
— S4C 🏴 (@S4C) February 24, 2023
Ynyr, sy'n wreiddiol o Brion ond sydd bellach yn byw ym Modelwyddan, fydd yn perfformio'r gân ar y noson fawr.
🏴 #CiG2023
📆 3 Mawrth
🕗 8.00 pic.twitter.com/2DQzucHW6m
8. Tangnefedd gan Sera Zyborska & Eve Goodman.
Dwy gantores sydd fel arfer yn canu ar eu pennau eu hunain sydd wedi cyfuno ar gyfer 'Tangnefedd.' Fe fydd Sera Zyborska yn gallu defnyddio ei phrofiad o 2014 a 2015 i helpu Eve Goodman, sydd yn cystadlu am y tro cyntaf.
Ar y llaw arall fe fydd Eve yn gallu defnyddio'i phrofiad o berfformio o flaen Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn ystod cyngerdd 'Cymru i'r Byd' fel cefnogaeth i Sera.
Mae'r ddwy yn ceisio pwysleisio themâu o heddwch a gobaith gyda'u cân eleni.
Sarah Zyborska ac Eve Goodman sydd wedi cyfansoddi 'Tangnefedd' - un o'r wyth cân sydd wedi cyrraedd Cân i Gymru 2023 🏴
— S4C 🏴 (@S4C) February 22, 2023
Sarah ac Eve fydd hefyd yn perfformio'r gân ar y noson fawr yn Aberystwyth 🎤
🏴 #CiG2023
📆 3 Mawrth
🕗 8.00 pic.twitter.com/Mj7TdBakAv
Dyma roi'r gair olaf i'r beirniaid - beth maen nhw'n chwilio amdano eleni?
"Rywbeth dydw i byth wedi clywed ar Cân i Gymru o'r blaen," yw dymuniad Eädyth.
Mae Gwyneth Glyn eisiau cân a fydd yn cydio ynddi o'r cychwyn cyntaf a "neges sy'n mynd i aros efo chdi".
Yn y cyfamser mae Arfon Wyn eisiau cân sy'n dweud stori - "rywun sy'n dweud eu hanes mewn cân".
Mae Ifan Davies eisiau gweld tystiolaeth o'r "sin byw yn cael ei efelychu yn y gystadleuaeth".
Beth mae beirniaid Cân i Gymru yn chwilio amdano 'leni?
— S4C 🏴 (@S4C) February 19, 2023
Dyma @eadythofficial, @GwynethGlyn, Arfon Wyn ac @IfanSion i esbonio 👇
🏴 Cân i Gymru
📆 3 Mawrth#CiG2023 pic.twitter.com/VmZtUjPOCT