Newyddion S4C

Neil Taylor

Neil Taylor yn ymuno â thîm hyfforddi pêl-droed Cymru dan-21

NS4C 03/03/2023

Mae cyn-amddiffynnwr Cymru, Neil Taylor, wedi ymuno â thîm hyfforddi carfan Cymru dan-21.

Mae prif hyfforddwr y garfan, Matty Jones, wedi cadarnhau y bydd Taylor yn ymuno â'r tîm hyfforddi ar gyfer ymgyrch ragbrofol Pencampwriaeth Ewropeaidd dan-21 2025. 

Fe wnaeth Taylor ennill 43 o gapiau i Gymru yn ystod ei yrfa, gan chwarae i lond llaw o glybiau gan gynnwys Wrecsam ac Abertawe. 

Bu'n rhan allweddol o garfan Cymru a wnaeth gyrraedd pencampwriaeth Ewro 2016, prif gystadleuaeth gyntaf Cymru ers 58 mlynedd. 

Sgoriodd un gôl yn ystod y gystadleuaeth yn ystod buddugoliaeth 3-0 yn erbyn Rwsia a wnaeth gadarnhau safle Cymru yn rowndiau terfynol y bencampwriaeth, gan ddechrau ar daith hanesyddol i'r rownd gynderfynol.

Fe wnaeth Taylor ymddeol o chwarae pêl-droed y llynedd ac ers hynny mae wedi bod yn astudio ar gyfer ei gymwysterau hyfforddi. 

Bu'n treulio cyfnodau yn hyfforddi tîm dan-16 Aston Villa a thimau canolradd eraill Cymru cyn ymuno â thîm Matty Jones. 

'Cadarnhaol'

Dywedodd Taylor ei fod yn "falch iawn" i gael y cyfle i ymuno â'r tîm hyfforddi dan-21. 

"Ar ôl cerdded y llwybr y mae'r chwaraewyr arno ar hyn o bryd yn ystod fy nyddiau chwarae, dw i'n teimlo y galla i gael effaith gadarnhaol ar eu gyrfaoedd," meddai.

"Dw i'n gwerthfawrogi'r cyfle mae Matty wedi'i roi i mi a nawr alla'i ddim aros i ddechrau gweithio gyda'r chwaraewyr ac adeiladu tuag at yr ymgyrch ragbrofol nesaf."

Fe fydd tîm dan-21 Cymru yn dechrau ar eu hymgyrch i gyrraedd y Bencampwriaeth Ewropeaidd yn 2025 gyda thaith i Ddenmarc ym mis Mehefin. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.