Newyddion S4C

Polina Horelova

Mam a ffodd o Wcráin yn arwain perfformiad côr o Wrecsam

NS4C 02/03/2023

Bydd mam i bedwar o Wcráin yn chwarae rôl allweddol mewn cyngerdd yn Wrecsam sydd yn dathlu amrywiaeth diwylliannol.

Bu'n rhaid i Polina Horelova ffoi o Wcráin y llynedd pan oedd Rwsia wedi ceisio goresgyn y wlad.

Mi fydd hi'n arwain dwy gân a fydd yn cael eu perfformio gan ensemble lleisiol NEW Voices yn Eglwys Sant Giles yn Wrecsam ym mis Ebrill.

Mae'r caneuon sydd wedi eu dewis yw rhai poblogaidd yn Wcráin gan gynnwys gweddi draddodiadol.

Mae o leiaf 20 o ffoaduriaid o Wcráin wedi ymuno â côr NEW Voices, sydd wedi ei leoli yn Wrecsam a Llanelwy.

Dywedodd Polina, oedd yn byw yn ninas Mariupol, bod cerddoriaeth wedi bod yn rhan o'i theulu ers blynyddoedd.

Image
cor NEW Voices

"Mae cerddoriaeth wedi bod wrth galon fy nheulu, ond hyd yn oed cyn i'r rhyfel dechrau roeddwn i wedi stopio gweithio'n broffesiynol ar ôl cael plant," meddai.

"Roedd magu teulu a pharhau gyrfa fel arweinydd côr yn anodd. Ond wedyn roeddwn i wedi cael fy nghyflwyno i'r côr ac roedd hynny wedi ailgynnau'r angerdd dros gerddoriaeth.

"Daeth cerddoriaeth yn gysur mewn cyfnod torcalonnus i ni."

Cefnogaeth

Mae gan Polina a'i gŵr Volodymyr pedwar o blant - Anhelina, 12, Oryna, 11, Liubomyr, saith, a Volodymyr, sy'n dair oed.

Er bod y teulu wedi darganfod lle i fyw yng Nghymru, mae Volodymyr yn dychwelyd i Wcráin yn aml, er mwyn trosglwyddo a dosbarthu pecynnau cymorth i deuluoedd yno.

Roedd ei ffarm a'i dŷ wedi'u dinistrio'n llwyr gan luoedd Rwsia, ac mae ef a Polina nawr yn gwneud bob dim y maen nhw'n gallu er mwyn cefnogi pobl Wcráin.

Yn ogystal, mae'r ddau yn gwneud gwaith elusen i UareUK yn Wrecsam, sydd yn helpu ffoaduriaid sydd yn dod i'r ddinas.

Dywedodd arweinydd A UareUK yn Wrecsam, Jane Townend, ei bod hi'n gallu gweld sut mae gwneud y gwaith elusen ac ymuno gyda'r côr wedi gwneud gwahaniaeth i ffoaduriaid.

"Rydan ni'n gallu gweld y gwahaniaeth mae canu a chreu ffrindiau yn gwneud i bobl sydd wedi colli bob dim," meddai.

"Mae'n anodd dychmygu'r hyn mae'r teuluoedd wedi bod drwyddo, ac mae'n rhan o'n gwaith ni i wneud bob dim ydan ni'n gallu i wneud eu bywydau yn well."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.