Newyddion S4C

Luca Bish: 'Dim syniad bod gymaint o Gymraeg yn cael ei siarad'

Luca Bish: 'Dim syniad bod gymaint o Gymraeg yn cael ei siarad'

NS4C 02/03/2023

Mae seren Love Island Luca Bish wedi dweud ei fod wedi ei "synnu" wrth glywed gymaint o Gymraeg yn cael ei siarad ar ymweliad i ogledd Cymru i ffilmio rhaglen deledu newydd.

Mae Luca ymhlith sawl seleb o’r byd teledu realiti i ymddangos yng nghyfres newydd Hansh S4C, ‘Mwy na Daffs a Taffs’ – cyfres sydd yn ceisio herio hen ystrydebau am Gymru.

Hefyd yn ymddangos yn y gyfres fydd Gemma Collins, sydd yn ymweld â maes Eisteddfod Tregaron ar ei hymweliad i Gymru, a chyn-ymgeisydd The Apprentice, Ryan-Mark Parsons. 

Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, dywedodd Luca, a orffenodd yn ail yn Love Island 2022, ei fod wedi mwynhau dysgu mwy am wlad nad oedd yn gwybod llawer amdani cyn ei ymweliad.

Agoriad Llygaid

Fe dreuliodd amser yng Nghastell Gwrych yn Abergele cyn cymryd rhan mewn sesiwn hyfforddi tîm pêl-droed merched Wrecsam – ond mae’n dweud mai uchafbwynt ei drip oedd mynd i weld gêm tîm dynion Wrecsam yn y Cae Ras.

“Y prif beth oeddwn i’n wybod am Gymru oedd mai dyna o le oedd Gareth Bale yn dod, a bod yr M4 yn mynd a ti yno – dyna’r cyfan dw i’n meddwl! Oeddwn i wedi croesi’r ffin ambell dro ond byth wedi cael blas ar Gymru.

“Nes i wir fwynhau’r profiad. Roedd o’n agoriad llygaid i weld beth sydd gan Gymru i’w gynnig. Byswn i’n hoffi mynd yn ôl i weld mwy a mynd ar wyliau yno. 

“Yr hoff beth wnes i oedd mynd i weld gêm tîm dynion Wrecsam yn y Cae Ras – dwi erioed 'di profi awyrgylch tebyg mewn gêm bêl-droed ar y lefel yna o’r blaen."

Cafodd Luca hefyd ei synnu o ran y nifer y bobl oedd yn siarad yr iaith. 

"Fe wnaeth fy synnu'n fawr faint o bobl oedd yn ei siarad, doeddwn i ddim yn gwybod ei bod yn cael ei siarad gymaint ag y mae hi. 

"Yn amlwg, gan fy mod i heb fod i Gymru, dydych chi ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl ond doeddwn i ddim yn disgwyl i'r iaith gael ei defnyddio gymaint ag y mae hi - ac roedd y bobl mor gyfeillgar, fe wnaeth pawb fy nghroesawu - roedd pawb yn gyfeillgar a chroesawgar."

Pob hawl i Ben Davies siarad y Gymraeg

Mae Luca, sy’n dod o Brighton, yn gefnogwr brwd o dîm pêl-droed Tottenham Hotspur, ac yn dweud ei fod wedi cwrdd ag amddiffynwr Cymru a Spurs, Ben Davies.

Cafodd Ben Davies ei wawdio ar y cyfryngau cymdeithasol wedi iddo wneud cyfweliad yn y Gymraeg ar raglen y BBC o Qatar yng Nghwpan y Byd y llynedd, ond mae Luca yn credu'n gryf fod gan unrhyw un yr hawl i siarad pa bynnag iaith y maen nhw'n ei ddymuno.

"Os mai dyna eich hiaith chi, yna dyna eich iaith chi, dwi ddim yn credu y dylai unrhyw un gael problem efo hynny. 

"Os oes yna rywun sydd yn teimlo'n gyfforddus yn siarad eu hiaith, yna dylent gael yr hawl i'w siarad."

Bydd tair pennod gyntaf Mwy na Daffs a Taffs ar gael ar S4C Clic, BBC iPlayer a holl lwyfannau Hansh o ddydd Iau 2 Mawrth.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.