Newyddion S4C

Codi treth cyngor yw’r 'unig ffordd i ddiogelu gwasanaethau hanfodol'

Newyddion S4C 01/03/2023

Codi treth cyngor yw’r 'unig ffordd i ddiogelu gwasanaethau hanfodol'

Codi treth cyngor yw’r unig ffordd i ddiogelu gwasanaethau hanfodol yn ôl y corff sy’n cynrychioli awdurdodau lleol ar draws Cymru.

O fis Ebrill ymlaen mi fydd bob cyngor yng Nghymru yn cynyddu faint o dreth sy’n cael ei godi er bod hynny’n amrywio o ardal i ardal.

Yn ôl elusen yn sir Conwy, lle allai’r ganran fod ar ei uchaf, mae yna bryder y bydd y costau ychwanegol yn gwthio mwy o deuluoedd i dlodi.

Mae nifer o gynghorau yn edrych ar wneud toriadau mewnol hefyd i leddfu’r pwysau.

O blith y 22 o siroedd, mae’r ganran yn amrywio gyda darlun cyllidebol bob sir yn wahanol.

Ddydd Iau mi fydd nifer o gynghorau yn pleidleisio dros dderbyn cyllideb ac un o rheini yw Cyngor Conwy lle mae’r cyngor yn ystyried codi canran y dreth o 9.9%, sef un o’r uchaf yn genedlaethol.

'Gwneud ein gorau'

Yn ôl Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd Charlie McCoubrey mae’r ganran o blith yr uchaf gan fod cyn arweinwyr a chynghorwyr y sir wedi penderfynu cadw’r dreth yn isel dros gyfnod o ddeng mlynedd gan ddefnyddio cronfeydd wrth gefn, sydd rŵan ar eu lefel isaf drwy Gymru.

“Mi ydan ni wir yn deall bod pobl yn gweld hi’n anodd ac mi ydan ni’n gwneud ein gorau i gadw’r ganran mor isel a sy’n bosib”.

“Ond yn draddodiadol ‘da ni wedi bod efo lefel treth isel o gymharu â’n cymdogion ac o ganlyniad i hynny ma’n cronfeydd wedi gostwng, ‘da ni ddim mewn sefyllfa i’w defnyddio i helpu’r gyllideb”.

“Ma’n gydbwysedd dwi’n gwybod bod pobl yn gweld hi’n anodd”, meddai.

Mae'r cyngor hefyd yn edrych ar wneud toriadau o 10% i bob un adran o fewn y cyngor oni bai am adrannau addysg a gwasanaethau cymdeithasol sydd ychydig yn llai.

Wrth gerdded pum munud o swyddfeydd y cyngor yng nghanol Bae Colwyn, mae canolfan elusen y CVSC sy’n cynnig cymorth i bobl sy’n gweld hi’n anodd.

'Ddim yn deg'

Yn ôl Jason Edwards sy’n delio â cheisiadau am gymorth, mae’n poeni y gallai’r codiad mewn treth arwain at ragor yn wynebu tlodi.

“Dydi pobl ddim yn cael digon o bres, mae rhentu yn codi a ‘ma na dipyn o bobl yn y gymuned sydd methu ffeindio tŷ, yn byw mewn soffa neu mewn ceir”.

“Dydi o ddim yn deg nac yn iawn”.

Mae’n dweud fod unrhyw gynnydd, fel codi cyngor treth, yn siŵr o arwain at fwy o bobl yn gwneud cais am gymorth gan CVSC sydd eisoes dan bwysau enfawr wedi’r argyfwng ynni.

“Fe allwn ni afael yn llaw pobl os oes angen, gallwn ni neud y galwadau ffôn, gyrru yr ebyst ar eu rhan nhw a trio lleihau y boen i fedru helpu nhw ffeindio y mudiadau”, meddai.

'Anodd'

Gyda’r darlun yn un ddigon llwm ar draws Cymru, mae Arweinydd Cyngor Gwynedd, sydd hefyd yn lefarydd dros Gymdeithas Llywodraethant Leol Cymru, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, yn dweud fod cynghorau wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd i ddiogelu gwasanaethau craidd.

“Mae’n anodd a ‘da ni’n ymwybodol iawn o hynny”.

“Mae bob un cyngor yn gwneud gwaith o liniaru effaith y cynnydd mewn costau byw ond y dewis arall ydi... ydan ni’n barod i dorri ar ofal i oedolion neu blant, dyna’r dewis anodd mae’n rhaid i ni wneud”.

Mae cyngor treth yn talu am gyfres o wasanaethau cymdeithasol gan gynnwys, gofal i blant ac oedolion, gwastraff tai a bwyd a chefnogi gwasanaethau ffyrdd, o blith rheini.

Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, roedd setliad nifer o gynghorau gan Lywodraeth Cymru yn well na’r disgwyl er bod y cynnydd mewn costau ynni, cynnydd cyflogau gweithwyr a chwyddiant yn rhoi'r cyllidebau dan straen annisgwyl.

Ar hyn o bryd mae rhai cynghorau eto i roi sêl bendith derfynol ar union faint y cynnydd ond mae bob awdurdod lleol yn dweud y bydd rhaid gwneud cynnydd o rywfaint er mwyn llenwi bwlch eu cyllidebau.

Mi fydd y newidiadau newydd yn dod i rym o fis Ebrill ymlaen.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.