Newyddion S4C

Datgelu cynlluniau ar gyfer ail-ddatblygu ysgol ym Mangor

28/02/2023
Ysgol Glanadda

Mae cynlluniau wedi eu datgelu ar gyfer ailddatblygu safle hen ysgol ym Mangor.

Caeodd Ysgol Glanadda ei drysau yn 2020 ond mae cynlluniau bellach ar y gweill er mwyn agor ysgol newydd ar gyfer 200 o ddisgyblion yno.

Bydd yr ysgol newydd yn cynnwys pum ystafell ddosbarth newydd, amffitheatr, ardal gemau aml-ddefnydd ac ardal werdd ar gyfer gwersi garddwriaeth.

Bydd 150 o blant ysgol gynradd yn cael eu haddysgu ar y safle yn ogystal â 50 yn y feithrinfa.

Fe fydd hynny’n cynnwys plant o ysgol Gatholig Ein Harglwyddes a fydd yn symud yno.

Image
Ysgol Glanadda
Yr hen Ysgol Glanadda

Dywedodd y swyddog cynllunio Idwal Williams y bydd maint ac edrychiad yr adeilad yn “cyd-fynd â’i lleoliad”.

Penderfynodd cynghorwyr y pwyllgor cynllunio gefnogi’r cynllun, o 11 i ddim.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.