Newyddion S4C

Cineworld

Pum sinema yng Nghymru mewn peryg o gau oherwydd trafferthion Cineworld

NS4C 28/02/2023

Mae pryder dros ddyfodol pum sinema yng Nghymru ar ôl i gwmni Cineworld gyhoeddi rhestr o’r safleoedd y maent yn ystyried eu cau.

Cyhoeddwyd y llynedd bod trafodaethau wedi eu cynnal i achub y cwmni yn sgil dyledion o dros $4.8 biliwn yn dilyn y pandemig.

Mae’r cwmni bellach wedi cyhoeddi rhestr o dros 100 safle ar draws y DU y maent yn ystyried eu cau, gan gynnwys pump yng Nghymru. 

Y pum safle yno yw: Brychdyn, Caerdydd, Cyffordd Llandudno, a dau safle yng Nghasnewydd - Parc Spytty a Friars Walk.

Mae’r sinemâu yn parhau ar agor ar hyn o bryd, ond mae amheuaeth dros eu dyfodol a’r swyddi sydd ynghlwm.

Dywedodd llefarydd ar ran Cineworld fod y busnes yn gweithredu fel yr arfer, "ac yn parhau i groesawu cwsmeriaid i'n sinemâu".

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.