Newyddion S4C

Ymgyrch brys i ganfod babi ar ôl arestio cwpl yn Brighton

28/02/2023
Mark Gordon and Constance Marten

Mae'r heddlu wedi dweud bod ymgyrch brys i ganfod babi ar waith wedi iddyn nhw arestio cwpl aeth ar goll ar ôl i'r fam rhoi genedigaeth. 

Cafodd Constance Marten, 35, a Mark Gordon, 48, eu harestio gan Heddlu Sussex yn Brighton nos Lun. 

Ond mae'r babi yn parhau ar goll ac mae Heddlu'r Met yn dweud bod ymgyrch brys i'w ddarganfod ar unwaith. 

Roedd y cwpl wedi bod ar goll ers i'w car gael ei ddarganfod yn llosgi ar y M61 ger Bolton ar 5 Ionawr, ar ôl geni’r babi.

Dros yr wythnosau nesaf fe wnaeth y cwpl symud o gwmpas y DU, gan gael eu gweld yn Lerpwl, Essex, dwyrain Llundain a Sussex. 

Y gred gan yr heddlu yw bod y cwpl wedi bod yn cysgu mewn pabell las ac wedi osgoi cael eu canfod trwy symud yn gyson a chuddio eu hwynebu mewn lluniau fideo cylch cyfyng. 

Dywed yr heddlu eu bod yn ansicr os cafodd y babi ei eni yn gynnar neu gydag unrhyw broblemau iechyd gan nad yw wedi derbyn unrhyw driniaeth feddygol ers cael ei eni. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.