Newyddion S4C

Gamblo

Galwadau am gymorth ar gyfer problemau gamblo ar eu lefel uchaf erioed

NS4C 28/02/2023

Mae elusen yn dweud ei fod yn derbyn y nifer uchaf erioed o alwadau am gymorth gyda phroblemau gamblo. 

Mae GamCare, sydd yn rhedeg llinell ffon er mwyn darparu cefnogaeth i bobl sydd yn gaeth i gamblo, wedi rhybuddio bod yr argyfwng costau byw yn gwthio pobl i gamblo. 

Dywedodd yr elusen iddyn nhw dderbyn y nifer uchaf erioed o alwadau dros gyfnod o fis yn ystod Ionawr eleni. 

Fe wnaeth yr elusen dderbyn mwy na 3,700 o alwadau neu negeseuon ar lein gan bobl yn chwilio am gymorth - 17% yn fwy na'r un cyfnod y llynedd. 

Yn ôl yr elusen, mae mwy a mwy o bobl yn cyfeirio at yr argyfwng costau byw wrth egluro eu rheswm dros gamblo. 

Mae GamCare bellach wedi datblygu gwasanaeth digidol newydd er mwyn cynorthwyo pobl sy'n gaeth i gamblo.

Pwrpas MyGamCare yw cynnig hafan i bobl lle mae modd iddynt gofnodi eu cynnydd a chael mynediad at adnoddau a chymorth. 

Yn ôl GamCare, mae'r gwasanaeth wedi clywed gan fwy o ddefnyddwyr sydd yn 35 oed neu'n iau.

Dywedodd prif weithredwr yr elusen, Anna Hemmings, fod yn rhaid i GamCare fanteisio ar ffyrdd digidol o gysylltu â phobl sydd angen help. 

"Mae bron i bedwar ymhob pump o bobl a ddefnyddiodd ein gwasanaethau'r llynedd wedi sôn am broblemau gyda gamblo ar-lein.

"Mae natur gamblo wedi newid yn llwyr dros y deng mlynedd ddiwethaf ac rydym yn gwybod y gall mwy cael ei wneud i gysylltu â phobl ar blatfformau digidol.

Llun: PA

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.