Newyddion S4C

Tîm rygbi Cymru yn cwympo i'w safle isaf erioed ar restr detholion y byd

27/02/2023
Cymru v Lloegr 2023

Mae tîm rygbi Cymru wedi cwympo i'r degfed safle ar restr detholion y byd, sy'n gyfartal â’r safle isaf yn hanes y tîm.

Ar ôl colli eu tair gêm gyntaf yn y Chwe Gwlad, mae Cymru wedi disgyn o’r nawfed i'r degfed safle, ar y rhestr a gafodd ei chyhoeddi gan World Rugby ar 27 Chwefror.

Daw hyn lai na phedair blynedd ers i Gymru gyrraedd rhif un ar y rhestr, cyn Cwpan y Byd 2019.

Fe allai colled yn erbyn yr Eidal yn eu gêm nesaf eu gwthio i’r 11eg safle, neu’r i’r 13eg safle os ydy’n nhw colli o 15 pwynt neu fwy. Byddai’r cochion yn codi yn ôl i’r nawfed safle gyda buddugoliaeth draw yn Rhufain.

Iwerddon sydd yn cadw eu lle ar frig y rhestr, gyda Ffrainc yn ail, Yr Alban yn bumed a Lloegr yn seithfed.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.