Newyddion S4C

Christopher Chandler

Dedfrydu dyn o Abertawe am geisio llofruddio ei bartner

NS4C 27/02/2023

Mae dyn 57 oed o Abertawe wedi ei ddedfrydu i 14 blynedd yn y carchar am geisio llofruddio ei bartner.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i dŷ ar Stryd y Berllan, Abertawe ar 25 Medi 2022 , a darganfod dynes 43 oed gydag anafiadau difrifol, ar ôl iddi gael ei thrywanu.

Cafodd ei phartner Christopher Chandler ei arestio yno, a'i gyhuddo yn ddiweddarach o geisio ei llofruddio.
 
Cafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. 

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Andrew Hirst: “Roedd hwn yn ddigwyddiad brawychus iawn i’r dioddefwr a arhosodd yn yr ysbyty am beth amser yn cael triniaeth ar gyfer eu hanafiadau difrifol. Mae’r ddynes yn parhau i wella o’r trawma ac yn derbyn cymorth pellach."

Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Carl Price: “Mae Heddlu De Cymru yn cymryd pob adroddiad o gamdriniaeth ddomestig o ddifri. Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn bywydau oedolion a phlant sy'n ddioddefwyr.
 
“Mae llawer o bobl sy’n cam-drin yn dibynnu ar bobl yn cadw'n dawel, er mwyn iddyn nhw allu parhau â’r cam-drin. Os ydych chi'n poeni am rywun rydych chi'n ei adnabod, rhowch wybod i ni. Byddwn yn gwrando.”
 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.