Newyddion S4C

Cyngor Môn - Pont Menai

Pont y Borth yn cau yn rhannol fis nesaf wrth i waith ail-ddechrau

NS4C 27/02/2023

Bydd Pont y Borth yn cau yn rhannol fis nesaf wrth i waith ail-ddechrau.

Ym mis Hydref y llynedd cafodd y bont ei chau yn gyfan gwbl i draffig ar ôl i beirianwyr godi pryderon am sefydlogrwydd y bont grog. 

Maen nhw wedi gosod hangeri dros dro er mwyn sicrhau diogelwch y bont ar hyn o bryd ond y nod rŵan yw tynnu'r hen hangeri a gosod rhai newydd yn eu lle.

Cafodd y bont ei hailagor i gerbydau yn pwyso llai na 7.5 tunnell yn gynharach fis yma, ond nawr mae'n rhaid gwneud gwaith pellach cyn gallu ailagor y bont i bob math o draffig.

Bydd un lôn yn cael ei gau o 6 Mawrth wrth i beirianwyr newid y hangeri ar y bont.

Bydd goleuadau traffig yn weithredol ar naill ochr y bont rhwng 9am a 3pm rhwng dydd Llun a Dydd Iau.

Y bwriad yw cwblhau’r gwaith o fewn pedwar diwrnod, ond fe allai gymryd hyd at 10 ddiwrnod, yn ôl Llywodraeth Cymru.

"Gwnaed pob ymdrech i darfu cyn lleied â phosibl yn yr ardal leol," meddai llefarydd ar ran y llywodraeth.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn gynharach fis Chwefror nad oedd bwriad ganddyn nhw godi trydedd bont dros y Fenai.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.