Newyddion S4C

£400 ar gael i rai er mwyn helpu talu’r biliau o heddiw ymlaen

Cynhesu dwylo oer. Llun gan Peter Byrne / PA

Bydd modd i rai pobol gael £400 gan Lywodraeth y DU er mwyn helpu gyda thalu biliau ynni o ddydd Llun ymlaen.

Mae’r rhan fwyaf o bobol wedi cael taliadau dan y Cynllun Cymorth Biliau Ynni heb orfod gofyn amdanynt ond mae angen i’r rheini sydd heb berthynas uniongyrchol gyda darparwr trydan wneud cais amdano.

Mae hynny’n cynnwys pobol sy’n byw mewn tŷ gofal neu gartref symudol mewn parc.

Mae £400 ar gael i helpu gyda’r biliau fel rhan o’r cynllun, gyda’r taliad yn mynd yn syth i gyfrifon banc pobol.

Dywedodd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol fod mwy na £7.2bn eisoes wedi ei dalu i 97% o gartrefi ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban.

'Annog'

Dywedodd y gweinidog Diogelwch Ynni,  Amanda Solloway eu bod nhw’n “deall faint o bwysau mae cartrefi yn ei wynebu”.

“Rydyn ni eisoes wedi camu i’r adwy er mwyn talu tua hanner biliau ynni pobol dros y gaeaf ac o heddiw ymlaen bydd modd i ragor wneud cais am £400,” meddai.

“Heddiw rydw i’n annog pawb nad oedd yn gallu cael eu disgownt Cynllun Cymorth Biliau Ynni'r ffordd arferol i wneud cais.

“Os nad oes gyda chi gysylltiad uniongyrchol gyda darparwr trydan mae’n hollbwysig eich bod chi’n cyflwyno cais mor fuan â phosib.

“Y cynharaf ydych chi’n gwneud hynny, y cynharaf y bydd help yn eich cyrraedd chi.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.