Bernie Sanders: 'Dylai’r Albanwyr gael annibyniaeth os ydynt yn dymuno ei gael'

Mae Seneddwr o'r Unol Daleithiau wedi lleisio ei farn ar gwestiwn annibyniaeth i’r Alban, gan ddweud “os ydyn nhw am fynd eu ffordd eu hunain, dylid caniatáu iddyn nhw wneud hynny”.
Gofynnwyd i’r gwleidydd dylanwadol Bernie Sanders am ei deimladau ar y mater wrth iddo ymddangos ar raglen ‘Sophy Ridge on Sunday’ ar Sky.
Fodd bynnag, fe ddywedodd hefyd nad oedd “yn arbenigwr ar wleidyddiaeth y DU”.
Dywedodd Mr Sanders: “Edrychwch, nid wyf yn arbenigwr ar wleidyddiaeth y DU, rwy’n gwerthfawrogi’n fawr yr hyn y mae pobl yr Alban wedi’i wneud a’r hyn y maent yn ymladd amdano.
“Fy meddwl cychwynnol, heb fod yn arbenigwr, os ydyn nhw eisiau mynd eu ffordd eu hunain, dylid caniatáu iddyn nhw wneud hynny.”
Ychwangenodd: “Peidiwch â dweud wrth neb y dywedais hynny!”
Dywedodd yr SNP fod Mr Sanders yn cydnabod hawl yr Alban i gynnal refferendwm ar annibyniaeth.
Dywedodd yr MSP Fiona Hyslop: “Gall unrhyw ddemocrat go iawn weld mai pobl yr Alban, nid gwleidyddion, ddylai benderfynu ar eu dyfodol – felly nid yw cefnogaeth Bernie Sanders i Albanwyr i gael dweud eu dweud am eu dyfodol yn syndod.
“Mae’r Torïaid a Llafur sydd o blaid Brexit yn gynyddol ynysig yn eu gwadiad gwarthus o ddemocratiaeth – mae hyd yn oed aelodau ac uwch swyddogion yn eu pleidiau eu hunain yn cydnabod hyn.”
Fis Tachwedd y llynedd fe wnaeth y Goruchaf Lys wrthod cais Llywodraeth yr Alban i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth.
Mewn dyfarniad unfrydol, dywedodd y Llys nad oedd gan Lywodraeth yr Alban y pŵer i alw refferendwm heb ganiatâd y Senedd yn San Steffan.