Newyddion S4C

Cynlluniau dadleuol i gyfyngu ar y nifer o fannau parcio yn Llandudno

Newyddion S4C 25/02/2023

Cynlluniau dadleuol i gyfyngu ar y nifer o fannau parcio yn Llandudno

Fe allai rheolau parcio newydd gael eu cyflwyno gan Gyngor Conwy ar nifer o ffyrdd yn Llandudno.

Mae’r cynlluniau am gyfyngiadau posib yn cynnwys rhannau o strydoedd amlwg yng nghanol y dref dwristaidd, yn ogystal â chymunedau cyfagos Craig y Don a Bae Penrhyn.

Yn ôl y cyngor, mae’r newidiadau - sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd - wedi eu seilio ar awgrymiadau preswylwyr a chynghorwyr lleol.

Ond mae rhai’n poeni y byddan nhw’n rhwystr i dwristiaeth ac yn ergyd i siopau’r stryd fawr.

Ar y cyfan, mân newidiadau ydy’r mesurau sydd dan ystyriaeth.

Byddai’r cynllun yn creu mwy o barthau ble nad oes modd parcio - a llefydd nad oes dim hawl parcio na llwytho - a hynny’n aml ar strydoedd preswyl neu ar gyffyrdd.

Dywedodd AS Ceidwadol Aberconwy, Janet Finch-Saunders, bod “digon” o gyfyngiadau parcio yn y dref yn barod.

“Beth mae Llandudno ei angen rŵan ydy i ni gadw’r stryd fawr am ddim,” meddai.

“Er fy mod i’n deall bod coffrau’r cyngor yn eithaf gwag ar y funud, ddylen nhw ddim cosbi’r rheiny sydd eisiau dod a gwario’u pres yn ein tref er mwyn cadw’r stryd fawr yn fyw.”

Ymateb cymysg

Cymysg oedd yr ymateb ymhlith perchnogion busnesau, gyda rhai’n poeni ac eraill ddim mor bryderus.

Fe ddywedodd Ian Richardson, sy’n rheolwr siop lyfrau, nad oedd y cynlluniau penodol yma yn destun pryder iddo, ond fod parcio yn bwnc dadleuol yn y dref.

“Mae o’n reit anodd i ffeindio rhywle i barcio,” meddai. “Maen nhw’n cymryd yr holl car parks away a dydyn nhw ddim yn replacio nhw.

“Mae o wastad yn anodd ffeindio rhywle lle ti’n gallu aros am fwy na awr a hanner.”

Er hynny - dydy o ddim yn teimlo bod y sefyllfa’n cael effaith fawr ar ei fusnes.

'Shocking'

“Dim llawer, na,” meddai. “Ond os ‘sa ‘na fwy o barcio - nid wrth y retail parks ond yn nes at yr High Street - ’sa ‘na fwy o bobl yn dod.”

Dywedodd rhai ymwelwyr eu bod wedi cael trafferth dod o hyd i rywle i barcio yn agos at ganol y dref.

“‘Nath o gymryd dwy awr i ffeindio lle i barcio,” meddai Vernon Thompson, sy’n wreiddiol o Bwllheli ond bellach yn byw yn Lloegr. 

“Mae’r parcio yn Llandudno yn shocking”.

Yn ôl Carwyn Hughes, fe benderfynodd barcio ar gyrion y dref gan ei bod hi’n haws.

“Fydda’ i’n mynd i’r out of [town] site i gael mwy o le, ond mae’n nightmare yn fa’ma [yn y canol],” meddai.

“90 munud gei di [i barcio] eniwe, a ti methu gwneud unrhyw beth mewn 90 munud.”

Ond dywedodd un ymwelydd cyson â’r dref bod y “parcio yn eithaf da yn Llandudno” a bod ‘na “ddigon ohono fo”.

“Dwi’n meddwl ei bod hi’n dibynnu pa mor bell ti’n fodlon cerdded,” ychwanegodd. “Does dim ots ganddon ni gerdded, felly ‘dan ni’n parcio ar y cyrion ac yn cerdded i’r canol.”

'Gwella diogelwch'

Mae’r newidiadau i orchmynion rheoleiddio traffig dan ymgynghoriad tan 1 Mawrth.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Conwy mai’r nod “yw cynnal llif traffig a gwella diogelwch ar y ffyrdd yn Llandudno.”

Ychwanegodd: “Mae nifer o’r cyfyngiadau yma ar gyffyrdd, ac maent wedi cael eu cynnig yn dilyn sylwadau gan breswylwyr lleol neu gynghorwyr.  

“Rydym ni’n annog preswylwyr i daro golwg ar y cynigion. 

“Mae’r cynigion, ynghyd â map ar gyfer pob lleoliad, ar gael i’w gweld ar ein gwefan, yn Llyfrgell Llandudno ac yn ein swyddfeydd yng Nghoed Pella.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.